Casting
Casting at the Torch Theatre
Torch Theatre Company productions are cast by the director of the show. Peter Doran, the Artistic Director, directs three to four shows each year. The Torch does not have a separate casting department or casting director. Please email info@torchtheatre.co.uk
Generally, we do not have a company, or ‘through-cast’ a season of plays. Productions are normally cast separately, taking account of the specific demands of each role. We employ actors who are resident all over the U.K. Auditions are usually held either in Cardiff, London or at the Torch.
How you can help us with casting
The information posted on this website is likely to be the most up-to-date available. Using these routes to find out about casting is preferable to telephoning. If you have a query regarding casting please contact us by e-mail on info@torchtheatre.co.uk Letters or e-mails making specific suggestions for particular roles are helpful. General letters or e-mails, expressing a wish to work at The Torch are not.
Hard copies of photographs and CVs are not necessary, e-mail attachments are fine. We may then request a hard copy if required. CDs and show reels are generally not useful.
Please believe us. If we say we need a fluent Punjabi speaker with an excellent mezzo-soprano voice, we mean it. Someone who can speak French and can ‘put a song across’ is not what we are looking for.
If you would like us to return any photos sent by post, please send an A4 S.A.E. with your application.
If you are offered an audition and can’t make it, please let us know. We can then offer an opportunity to audition to someone else. Some people try and ‘gatecrash’ auditions. Please don’t.
Please remember
There are a lot of you, and not many of us. We receive hundreds of submissions and invitations to shows each year. It is not possible to file or respond to all of them. Although we will always try to be helpful, we are not a training organisation or advice centre. We cannot always respond to requests for career advice and help with auditions.
We’d like to offer you the part
All actors at the Torch Theatre are paid the same wage, regardless of age, experience or size of role.
All submissions for casting should be made to peter@torchtheatre.co.uk
Please ensure you have read our policy on casting before making your submission
For enquiries e-mail: info@torchtheatre.co.uk
Postal Address: The Torch Theatre, St Peter’s Road, Milford Haven, Pembrokeshire, SA73 2BU
CURRENT CASTING REQUIREMENTS
Sorry - casting for the season is now complete.
Castio yn Theatr y Torch
Caiff cynyrchiadau Cwmni Theatr y Torch eu castio gan gyfarwyddwr y sioe. Mae Peter Doran, y Cyfarwyddwr Artistig, yn cyfarwyddo tair neu bedair sioe y flwyddyn. Nid oes adran gastio arbennig na chyfarwyddwr castio gyda’r Torch.
Yn gyffredinol, nid oes gennym gwmni, na chriw sefydlog ar gyfer tymor o ddramâu. Fel arfer caiff cynyrchiadau eu castio yn unigol, gan gymryd i ystyriaeth gwahanol ofynion pob rôl. Byddwn yn cyflogi actorion sy’n byw ar hyd a lled Prydain. Caiff clyweliadau eu cynnal gan amlaf yng Nghaerdydd, Llundain neu yn y Torch.
Sut gallwch ein helpu gyda chastio
Mae’r wybodaeth caiff ei bostio ar y wefan hon yn debygol o fod y mwyaf diweddar. Mae defnyddio’r ffordd hon o ddod o hyd i wybodaeth am gastio yn well na ffonio. Os oes gennych ymholiad ynglŷn â chastio, cysylltwch â ni ar e-bost info@torchtheatre.co.uk. Mae llythyron neu e-byst sy’n cynnig awgrymiadau penodol ar gyfer rolau arbennig yn ddefnyddiol. I’r gwrthwyneb, nid yw llythyron neu e-byst yn mynegi dymuniad cyffredinol i weithio yn Theatr y Torch o ddefnydd.
Nid oes angen copïau caled o ffotograffau neu CVs, bydd atodiadau ar e-bost yn ddigonol. Mae’n bosibl byddwn yn gofyn am gopi caled os oes angen. Yn gyffredinol, ni fydd CDs a darnau fideo yn ddefnyddiol.
Credwch ni, os nodwn fod angen siaradwr Pwnjabi rhugl gyda llais mezzo-soprano ragorol - na’n gymwys beth a olygwn. Nid rhywun sy’n siarad Ffrangeg ac sy’n gallu canu’n hyfryd y byddwn yn chwilio amdano felly.
Os hoffech i ni ddychwelyd unrhyw ffotograffau wnaethoch eu hanfon, cynhwyswch amlen A4 gyda’ch cyfeiriad arni gyda’ch cais.
Os cynigwn glyweliad i chi ond ni allwch ddod, rhowch wybod i ni. Yna gallwn gynnig cyfle i rywun arall i roi clyweliad. Mae rhai pobl yn ceisio rhoi clyweliad heb wahoddiad i fod yno. Peidiwch â gwneud hyn os gwelwch yn dda.
Cofiwch os gwelwch yn dda
Mae ‘na lawer ohonoch chi, a dim ond ychydig ohonom ni. Derbyniwn gannoedd o gyflwyniadau a gwahoddiadau i sioeau pob blwyddyn. Nid yw’n bosibl ffeilio nac ymateb iddynt oll. Er y byddwn bob tro yn ymdrechu i fod yn gymwynasgar, nid sefydliad hyfforddi na chanolfan cyngor yw’r Theatr. Ni allwn bob tro ymateb i geisiadau am gyngor gyda gyrfaoedd neu help gyda chlyweliadau.
Hoffwn gynnig y rhan i chi
Mae holl actorion y Torch yn cael eu talu’r un cyflog, beth bynnag eu hoed, profiad neu faint eu rôl.
Rhaid gwneud pob cyflwyniad ar gyfer castio i: peter@torchtheatre.co.uk
Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod wedi darllen ein polisi ar gastio cyn gwneud eich cyflwyniad.
Ymholiadau: info@torchtheatre.co.uk
Cyfeiriad Post: Theatr y Torch, Heol San Pedr, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 2BU
ANGHENION CASTIO AR HYN O BRYD
Mae’n flin ‘da ni, rydym eisoes wedi cwblhau castio ar gyfer y tymor hwn.




