Get Involved
All vacancies for Torch administrative staff, Cafe Torch, Theatre Bar and Kiosk are displayed in the Current Vacancies section of this site.
For information on current productions requiring casting, please visit our Casting page and read our guidelines before sending your application.
If you’re interested in the arts, you would enjoy working in our busy theatre as a member of our fantastic team of volunteers.
The Front Of House Team provides a warm welcome to thousands of customers every year, checking tickets and providing information, selling programmes and sweets, and playing a key role in ensuring audience safety. Then there's our merry band of Marketing Volunteers. Some who enjoy coming to our regular 'stuffing parties' - preparing the next large mailout, others who act as Theatre Ambassadors in their local town or village or are out on the road delivering posters and brochures...
If you’d like to meet new people, learn more about the way the theatre runs, enjoy some fantastic shows and benefits, and play a valuable role in supporting Pembrokeshire’s beautifully refurbished theatre, please get in touch. To find out more please visit our Volunteers page
Work Experience and Work Placements
The Torch Theatre is a popular choice for young people who want to broaden their experience of the world of work with a longer term placement, or enhance their learning as part of prescribed work experience for their school or college course.
We will always try to help you if we can. However, we do have to be realistic about our own workloads and responsibilities, and how this might affect the time we have available for you which could affect the quality of your work experience. Sometimes we may just be too busy to help you out, at other times there may not be much to do in that area of activity at the time you wish to come to us. We receive dozens of requests each year, and it’s not possible to accommodate all of them.
So, if we’re receiving lots of work experience and placement requests, what’s the best way for you to apply?
• We need information in writing, well in advance of your chosen dates
• We need details of the dates and times you would like to be with us
• We need home and school addresses, contact numbers and email addresses
• We’d like to know something about you, what you enjoy doing, what relevant course you’re studying, why you’ve chosen the Torch, what you’d hope to do with your life in the long run
• We need specific information about what you need to learn from the placement or work experience you’re requesting
• It may help if you can give us a couple of options if you’re interested in more than one thing
• We really want you to demonstrate that you want to come to the Torch for all the right reasons, and not just because you have to do something to keep your school or parents happy
It’s always a good idea to check availability with us before you spend time writing in response to the bullet points above. You should contact the General Manager Guy Woodham on 01646 694192 (Monday to Saturday) or guy@torchtheatre.co.uk and we can tell you what’s what.
Cymryd Rhan
Caiff unrhyw swyddi gwag ar gyfer staff gweinyddol y Torch, staff Caffi Torch, Bar y Theatr a’r Ciosg eu hysbysebu yn yr adran Swyddi Gwag Presennol ar y safle hwn.
Am wybodaeth am gynyrchiadau presennol sy’n cynnwys castio, ewch at ein tudalen Castio a darllenwch y canllawiau cyn anfon eich cais.
Os oes gennych ddiddordeb yn y celfyddydau, byddech yn mwynhau gweithio yn ein theatr brysur fel rhan o’n tîm gwych o wirfoddolwyr.
Mae’r Tîm Blaen Tŷ yn darparu croeso cynnes i filoedd o gwsmeriaid pob blwyddyn, gan wirio tocynnau a darparu gwybodaeth, yn gwerthu rhaglenni a losin, ac yn chwarae rôl hanfodol mewn sicrhau diogelwch y gynulleidfa. Yn ogystal, mae gennym griw llon o Wirfoddolwyr Marchnata. Mae rhai yn mwynhau dod i’n ‘partïon stwffio’ rheolaidd - gan baratoi'r ymgyrch bostio mawr nesaf, tra bod eraill yn gweithredu fel Cynrychiolwyr Theatr yn eu tref neu bentref lleol neu allan yn dosbarthu posteri a rhaglenni...
Os hoffech gyfarfod â phobl newydd, dysgu mwy am y ffordd mae’r theatr yn gweithio, mwynhau sioeau ffantastig a buddion eraill, a chwarae rôl werthfawr mewn cefnogi theatr Sir Benfro sydd wedi ei hail-newyddu’n hardd, yna cysylltwch â ni. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth ewch at dudalen Gwirfoddolwyr y Torch.
Profiad Gwaith a Lleoliadau Gwaith
Mae Theatr y Torch yn ddewis poblogaidd i bobl ifainc sydd am ehangu eu gorwelion yn y maes gwaith trwy leoliad estynedig, neu sydd am gyfoethogi eu dysgu fel rhan o raglen profiad gwaith cwrs ysgol neu goleg.
Byddwn bob tro yn ceisio eich helpu os yw’n bosibl. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn realistig am ein llwyth gwaith a’n cyfrifoldebau ni ein hunain, a sut gall hyn effeithio ar yr amser sydd gennym ar eich cyfer a gallai hyn effeithio ar ansawdd eich profiad gwaith chi. Ar brydau mae’n bosibl byddwn yn rhy brysur i’ch cynorthwyo, ar adegau eraill, efallai ni fydd llawer yn digwydd yn y maes gweithredu hwnnw ar yr amser pan hoffech ddod atom. Derbyniwn ddwsinau o geisiadau pob blwyddyn, ac nid yw’n bosibl cynnig lle i bawb.
Felly, os ydym yn derbyn llawer o geisiadau profiad gwaith a lleoliadau, beth yw’r ffordd orau i chi wneud cais?
• Bydd eisiau gwybodaeth yn ysgrifenedig arnom, ymhell cyn eich dyddiadau dewisedig
• Bydd eisiau manylion am y dyddiadau ac amserau hoffech fod gyda ni
• Bydd eisiau cyfeiriadau cartref ac ysgol, rhifau cyswllt a chyfeiriadau e-bost
• Hoffwn wybod rhywbeth amdanoch chi, yr hyn rydych yn mwynhau gwneud, pa gwrs perthnasol rydych yn ei astudio, pam rydych wedi dewis y Torch, yr hyn rydych am wneud gyda’ch bywyd yn y pendraw
• Bydd angen gwybodaeth benodol arnom am yr hyn sy’n rhaid i chi ddysgu o’r lleoliad neu’r profiad gwaith rydych yn gwneud cais amdano
• Gall helpu os allwch roi ambell opsiwn i ni os oes gennych ddiddordeb mewn mwy nag un peth
• Rydym am i chi arddangos eich bod am ddod i’r Torch am y rhesymau cywir, ac nid yn unig achos bod yn rhaid i chi wneud rhywbeth i gadw eich ysgol neu’ch rhieni yn hapus.
Mae’n syniad da pob amser i wirio argaeledd gyda ni cyn i chi ysgrifennu ymateb i’r pwyntiau uchod. Cysylltwch â Guy Woodham ar 01646 694192 (Dydd Llun i Ddydd Sadwrn) neu guy@torchtheatre.co.uk a gallwn ddweud wrthych be yw be.





