MAE'R TORCH YN BODOLI AR GYFER EI CHYNULLEIDFAOEDD ...
Cenhadaeth a Gwerthoedd
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw bod yn esiampl o greadigrwydd i'r celfyddydau perfformio yng ngorllewin Cymru, ac ysbrydoli artistiaid, diddanu cynulleidfaoedd a chysylltu cymunedau.
Ein Cenhadaeth
Wrth wraidd popeth a wnawn mae ein cynulleidfa. Ein nod yw cyflawni gwaith sydd nid yn unig yn bodloni disgwyliadau ond sy'n eu rhagori'n barhaus.
Mae ein cenhadaeth yn syml: Creu profiadau o ansawdd uchel sy'n cysylltu ar draws cymunedau mewn modd cynaliadwy.
Creu - Rydym yn creu ac yn curadu cynyrchiadau theatr, profiadau cyfranogi a digwyddiadau o ansawdd uchel i ysbrydoli, diddanu, swyno a herio.
Cysylltu - Rydym yn cysylltu sefydliadau celfyddydol, cymunedau, sefydliadau addysgol a busnesau er budd pawb.
Cynnal - Bydd popeth a wnawn yn cael ei ategu gan ein hymgais am gynaliadwyedd ariannol ac amgylcheddol, gan ddiogelu dyfodol Sir Benfro, Cymru a'r byd ehangach.
Fel theatr gynhyrchu flaenllaw gorllewin Cymru, rydym yn creu ac yn cyflwyno gwaith nodedig, perthnasol a hygyrch sy'n siarad â'n cymuned. Ein drama a gynhyrchir gartref yw calon y Torch, sy’n diffinio ein hunaniaeth ac yn ysgogi ein llwyddiant.
Ein nod yw bod yn rym creadigol yng Nghymru; theatr sy'n dod â phobl ynghyd trwy adrodd straeon beiddgar, cyflwyno perfformiadau cyffrous, a phrofiadau ar y cyd. Mae Theatr Torch yn cynnig rhaglen waith fywiog, gyda rhywbeth i bawb, ac addewid i adael pobl wedi'u hysbrydoli a'u cysylltu.
Y tu hwnt i'r llwyfan, mae ein rhaglenni addysg, allgymorth a gwirfoddol yn hyrwyddo creadigrwydd a chynhwysiant, ac yn hyrwyddo'r celfyddydau'n weithredol ledled Sir Benfro, Cymru, a thu hwnt. Ein nod yw trosglwyddo fflam y Torch, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o artistiaid a chynulleidfaoedd. Boed yn blentyn sy'n darganfod cyffro perfformio am y tro cyntaf, person ifanc yn dod o hyd i'w lais, neu wirfoddolwr sy'n teimlo'n rhan o rywbeth mwy, rydym yn gobeithio sbarduno angerdd gydol oes am y celfyddydau ym mhob un unigolyn yr ydym yn ei gyrraedd.
Ein gwerthoedd craidd yw:
Gorllewin yw'r Gorau – Ein cartref yn Aberdaugleddau yw dechrau'r daith, rydym yn falch o ble rydym wedi'n lleoli, ac rydym yn anrhydeddu ieithoedd, diwylliannau a phobl gorllewin Cymru.
Croeso/Welcome - rydym yn ymdrechu i wneud ein gweithgareddau a'n hadeiladau yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb sy'n dymuno cymryd rhan. Rydym yn dathlu'r safbwyntiau a'r sgiliau unigryw y mae pob person yn eu dwyn gyda nhw.
Chwarae Teg/Fair play – Ein nod yw bod yn deg ym mhopeth a wnawn, gan gynnwys arferion gwrth-hiliol, gwrth-ableddol a chynhwysol ochr yn ochr â chyflog ac amodau gwaith teg, a gwneud penderfyniadau tryloyw.
EIN GWELEDIGAETH
O fewn ein safle yma yng ngorllewin Cymru, ein bwriad ydy creu profiadau cofiadwy ac ysbrydoledig ar draws y genedl – ar gyfer pob person, ym mhob lle a phob amser.
Mae'r amser wedi dod i Theatr y Torch i gofleidio'r dyfodol gyda hyder a grym wedi eu hadnewyddu. Ein gweledigaeth yw creu rhaglen ddeinamig, o ansawdd uchel o ddrama wedi ei chynhyrchu adref sy'n gallu cyseinio tu hwnt i'n safle drwy gynyrchiadau theatr teithiol sydd wedi ysbyrdoli'r fath ffyddlondeb yn ein cynulleidfaoedd. Ein bwriad ydy cysylltu gyda thraws-doriad mor eang â phosib gyda'r amryw o waith yr ydym yn llwyfannu a gwneud y gwaith yna yn hygyrch i bawb. Drwy wneud hynny, rydym yn bwriadu gwella ein enw da am ragoriaeth, i ysbrydloi, datblygu cynulleidfaoedd newydd, a sylweddoli lle Theatr y Torch fel lle hanfodol, yn rhan “rhaid ei gweld” o dirlun cynhyrchu theatr.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.