CYMUNEDOL

Mae Theatr y Torch mewn safle gwych yn edrych dros yr harbwr yng nghanol hen dref bysgota Aberdaugleddau, Sir Benfro. Rydym yn un o ddim ond tair theatr gynhyrchu wedi ei seilio mewn adeilad yng Nghymru. Golyga hyn bod unrhyw gynyrchiadau Theatr y Torch a welwch (fel ein pantomeim blynyddol ysblennydd) yn cael eu gwneud yma, yn ein hadeilad, o'r newydd. Mae popeth - o ysgrifennu'r sgriptiau, i adeiladu'r set, a chreu’r gwisgoedd yn digwydd yma ar garreg eich drws - a gallwch chi fod yn rhan o hynny!

Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’n cymuned ac mae logo’r Torch nid yn unig yn nod i’r diwydiant olew a nwy o amgylch ein tref, ond hefyd yn dathlu hanes diwydiannol cryf Aberdaugleddau a’r ardal gyfagos.  

Mae ein gweithgaredd amrywiol yn cynnig ystod o gyfleoedd i ymwneud â’r celfyddydau, nid yn unig fel aelod o’r gynulleidfa yn un o’n dau awditoriwm ond hefyd fesul y rhaglenni canlynol:

Ein Theatr Ieuenctid Torch clodwiw,

Grwpiau Mamau a Babanod,

Fy Symudiadau (grŵp symud anabledd mewn cydweithrediad â Phobl yn Gyntaf Sir Benfro),

Ffilmiau ac Atgofion (Dangosiadau Ffilm Cyfeillgar i Ddementia)

Côr y Crud (Côr Dementia Opera Cenedlaethol Cymru),

Gwirfoddolwyr Blaen Tŷ.

Nid yw ein gweithgaredd yn gyfyngedig i'r digwyddiadau hyn. Rydym hefyd yn cynnig gweithdai, teithiau cefn llwyfan, a lleoliadau gwaith. Rydym yn awyddus i weithio gyda grwpiau lleol i'ch helpu i wneud y gorau o gael un o dai cynhyrchu amlycaf Cymru ar garreg eich drws.

Credwn y gall pawb ddod o hyd i le yma yn y Torch, ac rydym yn ymwybodol nad ydym efallai yn darparu hynny ar eich cyfer eto. Rydym bob amser yn edrych i ehangu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o bopeth sy’n digwydd yn ein tref, ein sir ac ar draws Gorllewin Cymru, a’r ffordd orau y gallwn gefnogi pob antur artistig.

Am fwy o wybodaeth, i ddechrau ar eich taith greadigol, neu i drefnu sgwrs dros baned, cysylltwch â’n Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned, Tim Howe – e-bost tim@torchtheatre.co.uk neu ffoniwch 01646 694192.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.