EICH YMWELIAD

Mae ein sinemâu dwy sgrîn yn dangos y gorau o gelf ty, ffilmiau annibynnol a Phrydeinig yn ddyddiol, ynghyd â ffilmiau newydd a ffilmiau ar gyfer y teulu.

Gall aelodau Meerkat Movie fwynhau tocynnau ffilm 2-am-1 bob dydd Mawrth a Mercher am flwyddyn gyfan.

SUT MAE ARCHEBU

oFfoniwch ein Swyddfa Docynnau rhwng 11am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ar 01646 695267

NEU

Cliciwch isod, dewiswch y dangosiad, archebwch ar-lein ac argraffwch eich tocynnau adref.

MYNEDIAD I BAWB

Mae Theatr y Torch yn croesawu yn ymwelwyr anabl.

Os oes gennych unrhyw  anghenion mynediad penodol neu gwestiynau cysylltwch gydag:

Ein Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 

neu siarad destun 18001 01646 695267

CONSESIYNAU

Ble mae'r cynnig, mae tocynnau consesiwn yn berthnasol i'r rhai sydd:

  • Dros 60
  • O dan 16
  • Ddi-waith
  • Yn fyfyrwyr llawn-amser
  • Wedi eu cofrestru'n anabl

PARCIO

Mae parcio ar gael ym maes parcio Stryd Robert oddeutu 200 medr o'r Theatr.

Nodwch nad oes parcio oddi ar y stryd yn Ffordd Sant Pedr neu Stryd Robert Isaf, sydd ar gyfer preswylwyr yn unig. Gall y rheiny sydd â bathodynnau anabl barcio yn y mannau'n syth o flaen y Theatr.

CAFFI TORCH

Mae Caffi Torch ar agor yng ngofal ein Rheolwr Arlwyo Lisa Canton.

Bydd y Caffi ar agor cyn yr holl sioeau byw, ffilmiau a digwyddiadau; yn cynnig bwydlen ddydd blasus a bwrdd o brydau arbennig, mynediad anabl a mynediad i wi-fi rhad ac am ddim.

  

TAKE A LOOK AROUND...

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.