CASTIO

Nid oes gennym fel arfer cwmni, neu ‘gast drwyddi’ am dymor o ddramâu. Caiff cynyrchiadau fel arfer eu castio ar wahân, gan gymryd i ystyriaeth anghenion penodol pob un rôl.


Rydym yn cyflogi actorion sy'n breswyl yn y DU a chaiff clyweliadau fel arfer eu cynnal naill ai yng Nghaerdydd, Llundain neu yma yn y Torch.

Castio Gwneud a Pheidio

Mae e-byst sy'n gwneud awgrymiadau penodol ar gyfer swyddi penodol o gymorth. Fel arfer, nid yw e-byst cyffredinol am ddymuniad i weithio yn y Torch yn effeithiol.

Nid yw llythyrau a chopïau caled o luniau a CVs yn angenrheidiol, gydag e-byst ac atodiadau yn well. Yn gyffredinol fel arfer, nid yw CDs a riliau sioe yn ddefnyddiol.

Cofiwch os gwelwch yn dda

Mae nifer fawr ohonoch chi, ac ychydig iawn ohonom ni. Rydym yn derbyn cannoedd o gyflwyniadau a gwahoddiadau i sioeau bob blwyddyn felly nid ydyw'n bosib ffeilio nac ymateb i bob un ohonynt.

Tra ein bod ni'n ceisio bod o gymorth ac yn gefnogol, ni allwn bob amser ymateb i gyngor gyrfa neu gymorth gyda chlyweliadau.

Dylid anfon yr holl gyflwyniadau ar gyfer castio at peter@torchtheatre.co.uk

Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod wedi darllen ein polisi ar gastio cyn gwneud eich cyflwyniad.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.