PROSIECT CYMUNEDOL NEWYDD A CHYFFROUS

Bwriad Stori Sir Benfro yw cysylltu pobl o ar draws cenedlaethau i ddathlu ysbryd Sir Benfro.

Rydym oll yn caru stori dda, ond maen nhw'n arbennig o dda os ydyn nhw'n taflu goleuni ar y lle rydyn ni'n hanu ohono.

Yn wreiddiol daeth Stori Sir Benfro ag artistiaid lleol a’n cymuned at ei gilydd i fapio’r sir fesul straeon beunyddiol yn cael eu hadrodd gan y bobl sy’n byw yma. Gyda 90 o straeon ar y wefan ar hyn o bryd o bob cornel o’r sir, rydym yn edrych i ehangu’r nifer hwnnw gyda rhai chwedlau newydd sy’n adrodd yr hanes ac yn dathlu bywyd yn Sir Benfro ddoe a heddiw.

Gallai stori fod yn rhywbeth mor syml â sut mae bywyd wedi newid dros y blynyddoedd neu fe allai fod yn ddigwyddiad arbennig i’w gofio. Mae’r straeon yma’n aml yn parhau fel chwedlau o fewn ein teuluoedd ein hunain, ac mae’r wefan hon yn cynnig y cyfle i’w rhannu â’r byd.

Mae gan bawb stori i'w hadrodd, a gobeithiwn y bydd Stori Sir Benfro yn helpu i gofnodi'r straeon hyn ac y byddant yn cael eu cofio am genedlaethau i ddod.

Ewch i’r wefan sef www.thepembrokeshirestory.co.uk   

 

Mae Theatr y Torch, gyda chymorth tîm o bobl greadigol llawrydd o Sir Benfro, wedi creu Archif Fyw o 90 o'ch straeon sydd wedi'u mapio ar wefan Stori Sir Benfro, a lansiwyd ym mis Ebrill 2021. Mae'r archif yn cynnwys fideos a darnau ysgrifenedig a delweddau.

Ac yn awr yn Hydref 2022 hoffem ychwanegu at yr archif fel y gallwn barhau i adrodd y stori. Felly rydyn ni am fwy o straeon gan fwy o bobl am fywyd yn Sir Benfro ddoe a heddiw. Hoffem yn arbennig weld fideos a wneir gan bobl ifanc lle maent yn cyfweld â'u mam-gus a thad-cus neu berthnasau hŷn am eu profiadau a hanesion bywyd yn Sir Benfro.

Bydd yr holl straeon - yn ysgrifenedig, wedi'u ffilmio neu fesul sain yn cael eu hychwanegu at y wefan ac fel archif byw ar-lein, ar gael i unrhyw un gael mynediad iddynt a'u mwynhau. Byddant oll yn helpu i adrodd hanes y sir anhygoel hon.

Gall straeon ysgrifenedig fod hyd at 1000 o eiriau o hyd a gellir eu cyflwyno fesul e-bost neu ar gopi caled. Mae'n wych cael rhai lluniau wedi'u cynnwys.

Ni all fideos fod yn hirach na 5 munud o hyd, mae modd eu gwneud ar deleffon neu wedi eu recordio o alwad llwyfan digidol (ffurf MP4), rhaid iddynt cael eu ffilmio fel tirlun a gallant fod yn y Saesneg neu’r Gymraeg

Anfonwch Eich Storiâu Atom Ni

Send your written story or you audio file (MP3) to marketing@torchtheatre.co.uk marked - The Pembrokeshire Story

And the best way to send us your videos is via WeTransfer to the following email: marketing@torchtheatre.co.uk 

Please mark the videos for the attention of The Pembrokeshire Story.  We will need to know the name of the person in the video, which part of Pembrokeshire their story is about, and a contact email address.

As the video will be shared on a public domain, we will require permission from those being filmed to use the video. We will send you a consent form which will need to be returned.

Anfonwch eich stori ysgrifenedig neu eich ffeil sain (MP3) i marketing@torchtheatre.co.uk.  wedi'i nodi - Stori Sir Benfro

A’r ffordd orau o anfon eich fideos atom yw drwy WeTransfer i’r e-bost canlynol: marketing@torchtheatre.co.uk. 

Marciwch y fideos at sylw Stori Sir Benfro. Bydd angen i ni wybod enw’r person yn y fideo, am ba ran o Sir Benfro y mae eu stori, a chyfeiriad e-bost cyswllt.

Gan y bydd y fideo yn cael ei rannu ar barth cyhoeddus, byddwn angen caniatâd y rhai sy'n cael eu ffilmio i ddefnyddio'r fideo. Byddwn yn anfon ffurflen ganiatâd atoch y bydd angen ei dychwelyd.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am y prosiect, e-bostiwch marketing@torchtheatre.co.uk. 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.