SUPPORT THE TORCH

DOD YN NODDWR

Efallai eich bod yn ein hadnabod fel unig gwmni theatr cynhyrchu proffesiynol Sir Benfro, un o dri cwmni theatr wedi ei leoli mewn adeilad yng Nghymru. Efallai eich bod hefyd yn ein hadnabod fel sinema ddigidol a 3D, gofod arddangos galeri neu'n syml am y gwaith yr ydym yn ei wneud gyda phobl ifanc. Yr hyn efallai nad ydych yn gwybod ydy ein bod ni'n elusen gofrestredig ac yr ydym yn dibynnu ar gefnogaeth noddwyr er mwyn parhau i gynnig cymysgedd dihafal o adloniant i bobl yn Sir Benfro a thu hwnt.

Pam cefnogi ni?

Rydym yn derbyn nawdd blynyddol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Tref Aberdaugleddau. Gyda phwysau cynyddol ar ariannu cyhoeddus yn y celfyddydau, er hynny, mae'r cymorth yma'n rhagori pan rydym yn ceisio cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau prysur, sydd o ansawdd uchel a mentrau sy'n gweithio'n agos gyda'r gymuned i gynulleidfaoedd o dros 70,000. O ganlyniad, rydym angen cefnogaeth ychwanegol gan unigolion a busnesau sy'n rhannu a deall buddion masnachol a chymdeithasol o gael y fath gyfleuster pwysig yma fel y Torch yma yng Ngorllewin Cymru.

Sut mae nawdd yn gweithio i'n helpu ni?

Mae Cwmni Theatr y Torch yn cynhyrchu rhyw dri neu bedwar o gynyrchiadau o ansawdd uchel pob blwyddyn a'r cyfan oll wedi eu gwneud yn Sir Benfro. Mae'r nawdd yn caniatáu i ni wella ac ymestyn ein sioeau arobryn yma, rhai ohonynt sy'n teithio'n genedlaethol ac sy'n perfformio yng Ngwyl Caeredin.

Mae ein gwaith Addysg, Theatr Ieuenctid a chynllun docynnau O Dan 26 ond yn bosib oherwydd cyfraniadau hael gan ein cefnogwyr. Mae £5 yn unig yn cynnig i berson ifanc lleol i brynu tocyn i fwynhau hud y theatr am y tro cyntaf.

Mae'r Torch yn elusen gofrestredig oherwydd ein bod ni'n cyfoethogi bywyd diwylliannol ac yn cynnig budd addysgiadol i'r gymuned. Mae ein lleoliad unigryw yn y rhanbarth yn ddibynnol arnom yn diogelu cefnogaeth gan unigolion a busnesau sy'n gofalu am yr hyn yr ydym yn ei wneud ac yn gallu gweld y buddion o gael perthynas gyda ni.

Siarad gyda Ni

Mae Guy Woodham bob amser wrth law os oes gennych unrhyw gwestiynau. Gall Guy, ynghyd â'i dîm o bobl proffesiynol yn y celfyddydau yma yn y Torch, gynnig pecynnau pwrpasol ar gyfer unigolion neu gwmnïau corfforaethol sydd eisiau gweithio'n agos gyda chwmni theatr llwyddiannus a lleoliad y celfyddydau.

Mae ein pecynnau Nawdd oll yn unigryw felly am ragor o wybodaeth ar ddod yn Aelod TLC neu am noddi sedd neu gwneud cyfraniad, trefnu digwyddiad croeso neu noddi perfformiad cyfan, yna e-bostiwch Guy Woodham yn uniongyrchol ar guy@torchtheatre.co.uk

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.