CROESO I THEATR IEUENCTID Y TORCH

“Mynd i Theatr Ieuenctid y Torch yw fy hoff ran o’r wythnos. Mae’n ddoniol, yn groesawgar, ac yn lle bach i ffwrdd o’r byd sy’n eich gwahodd i fod yn chi eich hunain a bod yn rhydd.” 

Bob wythnos mae pobl ifanc rhwng saith a 18 oed yn cymryd rhan mewn gweithdai meithrin sgiliau creadigol a diddorol sy'n eu hannog i feithrin eu hyder a dod o hyd i'w llais. Dan arweiniad ein tîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol theatr, nid yw'r sesiynau'n ymwneud ag actio a theatr yn unig. Rydym yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn dysgu am sgiliau cymdeithasol, datrys problemau a gwaith tîm - yr holl bethau yr ydym yn gwybod a fydd yn eu helpu i wneud y gorau o'u dyfodol. Yn bwysicaf oll, mae ein pobl ifanc yn cael hwyl ac yn gwneud ffrindiau newydd.

“Mae’r Torch yn golygu llawer i ni ac mae wedi ein helpu i greu cysylltiadau ac yn rhoi cyfleoedd i ni na fyddent byth wedi’u cael fel arall.”

Mae gennym bedwar grŵp sy'n briodol i oedran ac sy'n cyfarfod yn wythnosol ar ddydd Mawrth a dydd Mercher ar ôl ysgol yn ystod y tymor. Er hynny nid oes pwysau i fynd i bob sesiwn.


Grŵp 1: Blynyddoedd ysgol 3 a 4 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 4:00pm i 5:30pm

Grŵp 2: Blynyddoedd ysgol 5 a 6 yn cyfarfod ar DDYDDI MERCHER 4:30pm i 6:00pm

Grŵp 3: Blynyddoedd ysgol 7, 8, a 9 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH 6.30pm i 8:00pm

Grŵp 4: Blynyddoedd ysgol 10, 11, 12 a 13 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER 7:30pm i 9:30pm

Mae tymhorau’r Hydref a’r Gwanwyn yn dod i ben gyda rhannu anffurfiol lle mae’r bobl ifanc yn dangos i’w hoedolion beth maen nhw wedi bod yn ei wneud. Drwy gydol eu hamser gyda ni, gall pobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd perfformio, o waith lleisiol ar gyfer ein Pantomeim, i raglen Cysylltiadau’r Theatr Genedlaethol, a’n cynyrchiadau haf blynyddol ysblennydd ar gyfer Theatr Ieuenctid gyfan. Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn rhan bwysig o’n rhaglen flynyddol o theatr fyw. 

“Cafodd pawb y cyfle i ddangos eu sgiliau ac oherwydd hynny roedd ymdeimlad o gynhwysiant i bawb … Rwy’n ddiolchgar i ieuenctid y Torch.”

Mae sesiynau’r tymor yn £90 y pen.

Rydym yn hapus i drafod ffyrdd o wneud y taliad hwn yn rhwyddach i chi, ac rydym yn cynnig opsiynau taliad llawn, hanner tymor ac wythnosol.

Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn lle croesawgar i bawb. Rydym yn ymwybodol bod pob person ifanc yn datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac nad yw gallu bob amser yn gysylltiedig ag oedran. Ein nod yw gwneud addasiadau rhesymol i'n darpariaeth i sicrhau bod pob grŵp yn addas i bawb, fel y gall ein pobl ifanc wneud y gorau o'u profiadau.

Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y mae gennych chi neu'ch person ifanc ddiddordeb mewn bod yn rhan ohono, cysylltwch â'n tîm Swyddfa Docynnau ar (01646) 694192. Byddant yn hapus i gadw lle i chi sesiwn flasu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a’n Uwch Reolwr: Ieuenctid a Chymuned, Tim Howe
tim@torchtheatre.co.uk neu 01646 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.