Ychwanegiad Maint Anferthol i Hwyl yr ŵyl

Fe wnaeth ein hadolygwr rheolaidd Liam Dearden fynychu ein darlleniad cyntaf o Jack and the Beanstalk. Dyma beth oedd ganddo i'w ddweud ...

Os ydych chi’n chwilio am ychwanegiad maint anferthol i hwyl yr ŵyl y gwyliau Nadolig hwn, yna nid oes angen edrych ymhellach na phantomeim Nadolig Theatr Torch sef, “Jack and the Beanstalk” sydd wedi ei ysgrifennu a’i gyfarwyddo’n wych gan y Cyfarwyddwr Artistig Chelsey Gillard. Mae’r cynhyrchiad hyfryd hwn n cynnig antur gynhyrfus ar raddfa fawr i gynulleidfaoedd a fydd yn eich cael yn chwerthin hollti bol go iawn -o’r  ysgewyll lleiaf i'r tatws mwyaf.

Cefais bleser pur o fynd i ddarlleniad/ymarfer cyntaf y stori gymhellol hon, a gadewch imi ddweud wrthych, roedd y cyffro yn amlwg! Mae’r cast, sy’n frith o dalent lleol, yn cynnwys Samuel Freeman fel y direidus Terrence Fleshcreep, y Fonesig Titania Trott fythgofiadwy a bortreadir gan Lloyd Grayshon, a’r cyfrwys Agatha Fleshcreep a ddaeth yn fyw gan Freya Dare. Nid yw’r tri yn ddieithriaid i lwyfan y Torch, ar ôl disgleirio’n ddisglair ym mhanto Beauty and the Beast, a dorrodd record y llynedd.

Yn ychwanegu at y gymysgedd hyfryd mae Pat, y fuwch, sy’n sicr wedi dwyn y sioe, ac sy’n cael ei chwarae gyda chalon gan y dawnus Carri Munn. Mae Gareth Elis wir yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Torch fel yr arwr dewr, Jack Trott, sy'n byw ar Fferm Trott’s Tatter ochr yn ochr â'i fam a'u buwch annwyl, ac Elena Carys-Thomas sy'n chwarae rhan Fairy Gabby Greenfingers. Paratowch ar gyfer cynhaeaf toreithiog o lysiau a chwarae ar eiriau mŵ-tastig! Mae'r gynulleidfa yn barod ar gyfer antur wedi'i hysbrydoli gan Sir Benfro, gyda chyfeiriadau dirdynnol at ddirnodau lleol o Arwerthiant Cist Car Caeriw i Gastle Pill!

Yr hyn a'm trawodd yn ystod y darlleniad — ac sy’n cyd-fynd â barn fy nghyd-adolygydd Val Ruloff— yw bod y cynhyrchiad hwn yn argoeli i fod yn brofiad an-ffa-radigaethus. Mae'r daith yn uchel uwchben y cymylau i mewn i gastell y Cawr yn mynd â'r profiad i uchelfannau newydd.

Mae’r gwisgoedd llachar, o Jack i’r Fonesig Trott ffasiynol, yn asio cynhesrwydd y stori dylwyth teg â gwefr antur. Mae Kevin Jenkins yn addo profiad egnïol yn Cloudland, gyda golygfeydd llawn enfys, pefriiadau, digon o ffa a chymeriadau llond eu cot. Mae’n addo i fod yn berfformiad o adloniant pur. Wedi’u hategu gan gerddoriaeth wreiddiol James Williams, nid oedd y perfformiadau yn ystod y sesiwn ddarllen yn ddim llai na rhagorol, wrth i bob actor ddod i adnabod ei gymeriad gyda swyn unigryw a’m gadawodd i ddymuno mwy.

Mae sgript Chelsey Gillard wir yn hyfryd, yn cyfuno comedi, themâu amgylcheddol, ac arwriaeth deuluol yn feistrolgar, gan ddwyn i gof chwerthin, dagrau a lloniannau. Mae’n brofiad euraid yn llawn chwerthin iach, oll wedi ei selio mewn awyrgylch hudolus a byrlymog.

Felly, peidiwch ag oedi - dringwch ar fwrdd y coesyn ffa a dewch â'ch teulu bach a mawr am dro am antur anferthol! Bydd yr antur panto yn eich gadael â gwen ar eich wynebau a’ch calonnau’n llawn cred mewn hud, ymhell ar ôl i’r llen ddisgyn!

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.