Tri Chwpl, Tair Act, Tri Nadolig
Mae tri chwpl yn eu ceginau ar noswyl y Nadolig yn cyfarfod – ond nid yw popeth fel mae’n ymddangos ac mae tro yn y cynffon. Mae eu ffawd newidiol a straen yr ŵyl ynghyd â ffraethineb drygionus Alan Aykbourn a’i arsylwi tywyll yn arwain at un o’i ddramâu mwyaf doniol i ymddangos ar lwyfan Theatr Torch fis Chwefror eleni.
Yn berfformiad amatur trwy drefniant â Concord Theatricals UK, mae Absurd Person Singular yn cael ei chyflwyno gan Artistic Licence a bydd yn llawn chwerthin hollti bol lle cawn weld y cymeriadau’n dringo ac yn syrthio o fewn cymdeithas. Mae’r gomedi ddoniol o emosiynau ‘ffigar-êt’ a ffawd newidiol tri phâr priod, yn amlygu bywyd yn y 1970au – ac yn ffocysu ar ddosbarth cymdeithasol, cyfeillgarwch, priodas a bywyd y person cyffredin.
Wedi'i hysgrifennu ym 1972 gan y Dramodydd Prydeinig adnabyddus, mae'r ddrama gomedi gydag islais tywyll, wedi'i rhannu'n dair act. Roedd mor boblogaidd fel sioe theatr nes iddi gael ei throi’n ddrama deledu ym 1985 ac mae’n dal i apelio heddiw.
Bydd y sioe hynod hon - Absurd Person Singular sy’n cael ei chyflwyno gan Artistic Licence yn fyw ar lwyfan Theatr Torch ar 5, 6 a 7 Chweforo am 7.30pm ac 8 Chwefror am 2.30pm. Pris tocyn: £17. Consesiwn: £15. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.