YN GALW AR HOLL ARTISTIAID SIR BENFRO!
Ydych chi'n artist? Hoffech chi weld eich gwaith yn cael ei arddangos? Mae Oriel Joanna Field yn Theatr Torch Aberdaugleddau yn chwilio am artistiaid talentog o Sir Benfro i arddangos eu gwaith.
Mae artistiaid yn arddangos eu gweithiau yn Oriel Joanna Field am fis. Mae rhai yn cynnal lansiad ar ddechrau eu harddangosfa ac yn gwerthu eu paentiadau, boed yn lluniadau pensil, paentiadau olew neu ludweithiau – mae croeso i unrhyw gyfrwng.
“Mae’r oriel mor groesawgar, wedi’i lleoli wrth ymyl ein caffi poblogaidd. Dros y blynyddoedd rydym wedi cynnwys paentiadau ym mhob math o gyfryngau gan artistiaid amatur a phroffesiynol lleol, yn amrywio o olygfeydd môr i bortreadau ac mae’r themâu’n amrywio llawer,” meddai Jordan Dickin, Cydlynydd Cynhyrchu a Rhaglenni Theatr Torch.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r artist, Paul King, wedi arddangos ei waith ddwywaith yn Theatr Torch. Yn 2024, arddangosodd ei waith gydag artistiaid eraill drwy Sir Benfro yn Dysgu ac eleni cynhaliodd arddangosfa o'r enw Out and About (Most of the Time) gydag artistiaid lleol eraill a phwy ag ŵyr beth fydd y dyfodol, efallai y bydd yn ôl am drydydd arddangosfa.
“Yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i’r Torch am ganiatáu inni arddangos ein darnau mewn lle mor wych. Roedd pob aelod o dîm y Torch y bûm yn rhyngweithio â nhw yn frwdfrydig am yr arddangosfa ac yn awyddus i’n helpu. Ar y cyfan, mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn, diolch,” meddai Paul.
Ychwanegodd: “Roedd yr arddangosfa o gymorth mawr i mi orffen fy mhaentiadau o’r diwedd a’u fframio. Roedd eu gweld yn hongian ar y waliau wrth ymyl paentiadau fy ffrindiau, sydd hefyd wedi bod yn gweithio ar eu paentiadau nhw am y flwyddyn ddiwethaf, yn rhoi ymdeimlad gwych o gyflawniad i mi. Roedd aelodau’r staff yn gymwynasgar ac mae’r lle yn wych.
“Fel grŵp celf amatur, mae’r arddangosfa’n gyfle gwych i arddangos ein gwaith. Byddwn i’n annog unrhyw un sydd â digon o waith celf i lenwi’r waliau i feddwl am arddangos eu gwaith yn y Torch.”
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.