Rholio, gwthio, baglu a chwerthin hollti bol yn y Torch
Bydd Bethan Eleri o Aberdaugleddau – perfformwraig styntiau, actores a chyfarwyddwraig ymladd – yn dychwelyd i Theatr Torch ar gyfer Puss in Boots, y pantomeim blynyddol, ac mae yna nifer o olygfeydd ymladd na ddylech eu colli! Gyda rholio, gwthio, baglu a chwaraeon digrif yn ôl ac ymlaen ar lwyfan, mae’r brwydro a drefnwyd yn ofalus yn sicr o weld chwerthin hollti bol.
Bob blwyddyn, bydd y Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard, yn cynnwys brwydrau 'slwj' a dŵr, ac nid yw eleni'n wahanol.
“Does dim brwydr ddŵr eleni, ond bydd dŵr yn cael ei chwistrellu ar y llwyfan fel rhan o olygfa ymladd. Mae gan Chelsey bob amser foment o ymladd digrif, ac yna un olygfa ymladd fawr, wirion – ac maen nhw’n bendant yn rhan o’r sioe eleni!” meddai Bethan Eleri.
“Rwyf wrth fy modd dod yn ôl i’r Torch; mae’n un o fy hoff ystafelloedd ymarfer. Mae’n ystafell mor hamddenol, ac mae’r actorion yn cyfrannu cymaint i’r gofod cynnes a chreadigol hwn. A dyma lle rwy’n dod i’w hadnabod ac yn darganfod eu galluoedd corfforol ar gyfer golygfeydd ymladd,” eglurodd Bethan Eleri, a aned ac a fagwyd yn Sir Benfro.
“Mae un olygfa ymladd fawr, wirion eleni sy’n cynnwys neidr, ceffyl pren, morthwyl, ysgub a beiro mawr iawn – bydd yr actorion yn gafael mewn unrhyw beth sydd ar y llwyfan. Byddaf yn cynnal gweithdy ymladd cyn i ni ddechrau ar yr ymarferion o ddifrif, er mwyn gweld a oes gan yr actorion anafiadau y dylwn wybod amdanyn nhw, ac i weld sut maen nhw’n symud. Y pethau bach sy’n cyfrif,” ychwanegodd Bethan Eleri, a weithiodd yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Ymladd ar gyfer cynhyrchiad Cwmni Theart Torch o The Hound of the Baskervilles. Y prif gymeriad yw Puss, fel mae'r teitl yn awgrymu, a'r actores leol Freya Dare – sydd hefyd o Sir Benfro – fydd yn chwarae rhan y gath ryfeddol.
“Rwyf wedi bod yn ymchwilio i sut mae cath yn symud ac yn ymddwyn, er mwyn sicrhau bod Puss yn ymddwyn fel y dylai, a byddaf yn ymgorffori’r symudiadau hynny yn y golygfeydd ymladd. Bydd y ‘Fonesig’ (Lloyd Grayshon) mor wirion ag erioed, a bydd un actor yn cael y rhan anffodus – yn syrthio drosodd ac yn cael ei wthio o gwmpas drwy’r amser. Mae’r gerddoriaeth hefyd yn helpu, ac mae’n hanfodol i’r actorion wybod pryd i stopio, newid safle, a dechrau o’r newydd,” meddai Bethan Eleri wrth gloi.
Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau trwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Dewch i'r Sbotolau!
Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.