Blog No. 25 - Margaret Morgan

Un o’r pethau gorau am weithio i Fenter Iaith Sir Benfro yw’r amrywiaeth o weithgareddau mae’r Fenter yn ymwneud â nhw. Yn ddiweddar er enghraifft, rydym wedi mynd am dro gydag Iolo Williams ym Mharc Natur Cilgerran, cyd-weithio gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro mewn gweithgareddau gydag Adam ‘yn yr ardd’ Jones ac eraill yng Ngŵyl y Dysgwyr ac ar drip o gwmpas Ceredigion. Fel staff rydym yn gweithio gyda phlant ac oedolion o bob oedran a siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.

Ond i fi un o’r pethau gorau yw mynd allan i’r gymuned i gwrdd â phobl newydd- a hen gyfeillion- yn y sesiynau Clonc a Choffi o gwmpas y sir ac mae bob amser yn braf cael gwahoddiad i Theatr Torch i ymuno â’r bore Coffi Cymraeg yno. Mae sgwrs fywiog bob amser -  o brofiadau yn yr arholiadau, i gwestiynau am ramadeg, a newyddion y mis a aeth heibio -  a’r hyn oll dros ddisied o goffi hyfryd a chacen flasus mewn cwmni da! Diolch am y gwahoddiad!

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.