Blog Rhif. 43 - Robin Hood: The Legend of the Black Knight
Fis Gorffennaf eleni bydd Theatr Torch yn atseinio gyda sain Robin Hood: The Legend of the Black Knight. Bydd y fersiwn newydd sbon hon o'r stori glasurol yn cynnwys dros 50 o actorion ifanc o Theatr Ieuenctid y Torch a fydd yn dod â thair noson o anturiaethau cyffrous i chi.
Tim Howe, Uwch Swyddog Ieuenctid a Chymuned sy’n dweud wrthym pam y dylech fynd i weld y cynhyrchiad hyfryd hwn...
Pam dewis Robin Hood: The Legend of the Black Knight?
Dw i'n dod o Nottingham yn wreiddiol, felly cefais fy magu yng nghanol straeon chwedlonol Robin Hood a'i ddynion llawen—straeon yn llawn dewrder, gwrthryfel, a drygioni. Ychwanegwch at hynny'r gyfres deledu hynod ddoniol Maid Marian gyda Tony Robinson, a'm cadwodd wedi nglynu wrth y teledu drwy gydol fy mhlentyndod, a gallwch ddychmygu pa mor ddwfn yw gwreiddiau pob fersiwn o straeon Robin Hood i mi.
Felly, pan oedd Chelsey (Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch) a minnau'n archwilio teitlau ar gyfer ein pobl ifanc, roedd hon yn dal y llygad ar unwaith. Mae ganddi bopeth y gallech chi ei eisiau ar gyfer noson wych yn y theatr: drama uchel ei risg, comedi fywiog, ychydig o ramant, ac awgrym o ddirgelwch. Doeddwn i ddim yn gallu aros i ymchwilio i'r deunydd a dechrau llunio fersiwn Theatr Ieuenctid y Torch ei hun o'r chwedl eiconig hon.
Beth all y cynhyrchiad hwn ei gynnig i'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan?
Mae shwt gymaint y bydd y bobl ifanc yn ei gael o gymryd rhan yn y cynhyrchiad hwn, a dweud y gwir. Mae gennym ni dros 50 o bobl ifanc ar y llwyfan, ac rydym wedi creu cynhyrchiad yr ydym yn gwybod y bydd yn rhoi eiliad ystyrlon iddyn nhw i gyd ‘o dan y sbotolau’. Gyda chyfnodau llawn cyffro ensemble mawr, i olygfeydd tawelach sy’n cael eu hysgogi gan gymeriadau, mae gofod ar gyfer sgiliau pawb. Nod Theatr Ieuenctid y Torch yw nid yn unig datblygu sgiliau actio’r bobl ifanc, ond hefyd eu hyder, eu gwaith tîm, yn ogystal â’u dychymyg, ac mae cynyrchiadau ar raddfa fawr fel hyn yn gyfle perffaith i wneud hynny!
Ydych chi'n meddwl y bydd y stori'n boblogaidd gyda'r actorion a'r cynulleidfaoedd?
Mae pawb yn meddwl eu bod nhw'n adnabod chwedl Robin Hood, ond mae gan bob cenhedlaeth ei fersiwn ei hun, boed y 'Men In Tights' hynny neu dro Alan Rickman yn 'Prince of Thieves', ac rydym yn gobeithio mai The Legend of the Black Knight fydd yr un y bydd ein pobl ifanc a'n cynulleidfaoedd yn ei gofio. Mae'n gyflym, yn ddoniol, ac yn llawn calon, felly gall y perfformwyr ymroi i'r stori, a bydd cynulleidfaoedd yn gweld y stori gyfarwydd gyda rhai troeon annisgwyl.
Pa mor debyg yw'r stori i'r Robin Hood gwreiddiol rydyn ni i gyd yn gyfarwydd ag ef?
Mae stori Robin Hood wedi cael ei hadrodd, ei hail-adrodd a'i hail-ddyfeisio ers y 1300au, felly mae gennym lawer o elfennau gwahanol i chwarae gyda nhw. Byddwch yn dawel eich meddwl bod digon o elfennau sy'n swnio'n gyfarwydd - arwyr mewn dillad gwyrdd, dwyn oddi wrth y cyfoethog a rhoi i'r tlodion, achub morwyn mewn trallod a brenin sy'n wallgof am bŵer - ond mae ein fersiwn ni'n newid pethau o gwmpas ychydig. Fe welwch fod y Tywysog John wedi cael ei ddisodli gan ei fam, y Frenhines Eleanor ddidostur, ac mae Marchog Du dirgel sy'n dal i ymddangos. Felly dyma'r chwedl glasurol ... rhyw fath!
Disgrifiwch Robin Hood: The Legend of the Black Knight mewn tri gair.
Anturus. Doniol. Teimladwy.
Beth all cynulleidfaoedd ei ddisgwyl?
Yn gyntaf oll, byddwch chi'n cael noson wych – yn llawn drama, gweithredu a dim ond ychydig o chwerthin. Ond byddwch chi hefyd yn cael gweld sut mae'r actorion ifanc hyn yn ymdrin â rhai o eiliadau mwy emosiynol y stori. Rydyn ni hefyd yn gwybod y byddwch chi'n mwynhau gweld ein llwyfan yn llawn pobl ifanc a fydd nid yn unig yn actorion y dyfodol ond a fydd hefyd yn rhedeg y byd! Felly dewch draw a dywedwch eich bod chi wedi'u gweld nhw yma gyntaf!
Faint o bobl ifanc fydd yn ymddangos ar y llwyfan a beth yw'r heriau y byddant yn eu hwynebu?
Bydd dros 50 o bobl ifanc yn cymryd rhan, sef pob aelod o'n theatr ieuenctid – does neb yn cael ei hepgor! Mae'n wych rhoi'r cyfle hwn i'n holl gyfranogwyr ond mae hefyd yn her i ni. Un o rannau anoddaf y broses yw bod y cast i gyd yn ymarfer ar nosweithiau gwahanol ond maen nhw i gyd yn adrodd un stori gydlynol ac yn aml mewn golygfeydd gyda phobl nad ydyn nhw yn eu grŵp… felly mae'n rhaid iddyn nhw ddychmygu ble mae'r perfformwyr eraill. Yna dim ond ddwywaith y maen nhw'n dod at ei gilydd fel cwmni cyfan cyn y noson agoriadol. Mae'n her wirioneddol i bawb ond yn enwedig i'r perfformwyr ifanc. Ond mae'n her maen nhw bob amser yn codi iddi. Ac mae'n hynod werth chweil pan fydd popeth yn dod at ei gilydd, a'r llen yn codi ar gyfer y perfformiad cyntaf.
A fydd yna ganu a dawnsio lle gall aelodau'r gynulleidfa ymuno?
Na—nid cynhyrchiad canu nac ychwaith dawnsio fydd hwn. Ond bydd yna adegau a fydd yn gwneud i'r gynulleidfa anadlu'n uchel neu chwerthin yn uchel. Fyddwn ni ddim yn eich atal rhag gwneud hynny!
Heb ddatgelu gormod, allwch chi ddweud ychydig wrthym am y cymeriadau?
Wel, mae’r holl gymeriadau cyfarwydd yn ein stori ni. Mae Robin – yr arwr anfodlon, Little John – ei ffrind gorau sydd braidd yn poeni am Marian, Will Scarlett – sy’n dwlu ar wisgo i fyny, Allan-a-Mor – y cerddor teithiol, ac wrth gwrs y Brawd Tuck doeth. Nid yw Marian yn llances mewn trallod o gwbl, beth bynnag yw barn y Siryf a’r Frenhines Eleanor gormesol. Ac ni allwn anghofio gweddill y criw, rhai gwarchodwyr anffodus, dinasyddion Nottingham, Stephen y negesydd ac yna mae’r Marchog Du. Y ffigur dirgel sy’n tywys Robin… ond nid yw popeth fel y mae’n ymddangos.
Pam ddylai pobl ddod i weld y cynhyrchiad?
Nid yn unig y bydd Robin Hood: The Legend of the Black Knight yn noson wych allan yn y theatr, ond bydd hefyd yn ddathliad mawr iawn o dalent ifanc anhygoel sydd gennym ni yma yn Sir Benfro. Mae'r cast yn wych ac allaf aros iddyn nhw rannu eu fersiwn nhw o'r chwedl glasurol hon gyda chi. Dewch draw i gefnogi'r bobl ifanc hynod wych yma.
Gellir gweld Robin Hood ar lwyfan Theatr Torch ddydd Llun 20 Gorffennaf, dydd Mawrth 21 Gorffennaf a dydd Mercher 22 Gorffennaf am 6.30pm. Pris: £10 / £8 consesiynau. Archebwch docynnau drwy wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.