Blog Rhif. 44 - Adolygydd Cymunedol

Dair blynedd yn ôl, croesawodd Theatr Torch Val Ruloff fel un o'i hadolygwyr cymunedol. O gynhyrchiad Ieuenctid y Torch o The Bangers and Chips Explosion i bantomeim Nadoligaidd Rapunzel y llynedd, mae Val wedi mwynhau pob eiliad o fod yn rhan o’r gynulleidfa ac ysgrifennu adolygiadau. Darllenwch ei blog isod. Diolch, Val!

"Mae'n wych,

mae'n rhyfeddol"

Cyfeirio at gerddoriaeth a geiriau hardd George ac Ira Gershwin - efallai mai dyma'r ffordd orau i mi adolygu adolygiadau cymunedol ar gyfer Theatr Torch!

Mae wedi bod yn gyfnod o hwyl dros y tair blynedd a'r tri mis diwethaf! Dw i wrth fy modd â'r theatr - y sioeau byw a'r dramâu, y pantomeim, y sioeau cerdd, y ffilmiau a'r ffilmiau newydd, cynyrchiadau theatr ieuenctid a'r dramâu di-ri, comediâu a’r amrywiaeth sydd ynghlwm â’r pecyn cyfan.

Mae dweud fy mod i wedi cael y fraint o gael y cyfleoedd y mae adolygu yn eu cynnig yn danddatganiad mawr iawn - dim hyd yn oed hanner y peth! Am agoriad llygad - mae cael cipolwg yma ac acw y tu ôl i'r llenni yn hynod ddiddorol, dim ond cipolwg trwy agen fach yn y llen - trwy hollt saeth neu borthol - i weld sioeau, dramâu, pantomeimau a'r holl syniadau cynhyrchu, llwyfannu, propiau a pherfformiadau wrth iddyn nhw gael eu creu. Mae'n gyffrous iawn ac nid wyf byth yn blino.

Daeth fy nghyflwyniad i adolygu yn dilyn cynhyrchiad o The Thirty-nine Steps gan Artistic Licence - ac yna gofynnwyd i mi a fyddai diddordeb gennyf i roi pen i bapur a rhoi fy adborth ar fy mhrofiad gwylio.

Yna yn dilyn hynny, cefais gysylltiad ag Annie Taylor, Ymgynghorydd Marchnata yn y Torch (hyd at ddiwedd mis Ebrill eleni). Roedd gen i un mlynedd a deugain o brofiad o nyrsio yn y GIG cyn fy rôl o adolygu ar gyfer y Torch. Mae profiad dynol sylfaenol yn sicr o fod yn berthnasol - yn y ddau faes.

Rydw i wedi bod yn Theatr Torch ers i'r drysau agor gyntaf, gan fynd i wylio drama Shakespeare wrth astudio yn yr ysgol. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, rydw i wedi dod â fy mhlant fy hun hefyd, a gweld Basil Brush ymhlith llu o rai eraill! O hynny ymlaen, mae un cynhyrchiad ar ôl y llall wedi bod fel comedi “She Stoops to Conquer" i "The Turn of the Screw" gan Henry James (a adfywiwyd unwaith yn rhgaor yn y Torch y llynedd).

Nawr, mae dod â’r cylch cyfan i ben a chael cyfrannu fel adolygydd yn anhygoel. Rwy’n ymuno â’r côr o gymeradwyaeth i adrodd fy llinellau a dyfynnu mai gem yw’r Torch yng nghoron Sir Benfro, fel llewyrch disglair o berl yn y môr dwfn.

Mae bod yn adolygydd i'r Torch.....

"Mae'n braf iawn

Mae’n baradwys."

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.