Blog Rhif. 49 - Cast ar gyfer The Hound of the Baskervilles

Wrth i The Hound of the Baskervilles gyrraedd llwyfan Theatr Torch fis Hydref, bydd yr actor Gareth John Bale yn wynebu her fawr wrth chwarae rhan Sherlock Holmes, Mr a Mrs Stapleton, Slasher Seldon ac amrywiaeth eang o gymeriadau eiconig eraill. Bydd Rick Yale – wyneb newydd yn Theatr Torch – yn chwarae rhan Syr Henry Baskerville, a bydd Jessica Dyas o Sir Benfro yn chwarae rhan Dr Watson... gallwch ddysgu rhagor amdanynt isod wrth iddyn nhw rannu eu syniadau gyda ni.

Gareth John Bale: Mae'n bleser mawr bod yn ôl yn gweithio yn Theatr Torch. Rwyf wedi bod yn ymwelydd cyson ers dechrau'r 2000au ac pherfformiais yma am y tro cyntaf ar gyfer Cwmni Theatr Torch yn 2006. Byddai'n anodd dod o hyd i theatr sy'n rhoi croeso cynhesach, a'r ymdeimlad cryf hwnnw o gymuned sy'n ei gwneud yn lle mor arbennig i ymweld â hi ac i weithio ynddi.

Mae wedi bod yn bleser mawr cael dal i fyny â hen ffrindiau yn y theatr a chael gweithio gyda phobl greadigol a thechnegwyr newydd hefyd. Mae'r fersiwn hon o The Hound of the Baskervilles yn ddrama i dri actor. Er mai dim ond tri ohonom fyddwch chi'n eu gweld ar y llwyfan, mae angen tîm cyfan y tu ôl i'r llenni i wneud i'r cyfan ddigwydd. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i dreulio'r cyfnod ymarfer mewn ystafell ymarfer hynod hwyliog ochr yn ochr â dau actor gwych, cyfarwyddwr rhagorol a Rheolwr Llwyfan Dirprwyol (DSM) sydd â llygad craff iawn. Rydym hefyd yn cael ein cefnogi gan dîm anhygoel o bobl greadigol a thechnegwyr sy'n rhannu eu sgiliau a'u harbenigedd i helpu i wneud hon yn sioe i'w chofio.

Ac am anrhydedd ydyw i chwarae rhan Sherlock Holmes, cymeriad llenyddol sy'n aml yn cael ei ddisgrifio fel y mwyaf poblogaidd a'r un sydd wedi cael ei addasu amlaf erioed. Ar ôl gweld y sioe, efallai y byddwch yn teimlo fy mod i hefyd wedi ei addasu mewn ffordd eithaf gwahanol (ymddiheuriadau ymlaen llaw i unrhyw gefnogwyr brwd o Basil Rathbone; dim ymddiheuriadau o gwbl i gefnogwyr Cumberbatch!). Nid Sherlock yw'r unig gymeriad rydw i wedi mynd ati i'w bortreadu gyda brwdfrydedd, chwaith. Rydw i wedi cael llawer o hwyl yn ymgyfarwyddo â rhai o greadigaethau eraill Arthur Conan Doyle, ac wedi defnyddio amrywiaeth o leisiau—nodwch, lleisiau, nid acenion na thafodieithoedd - ar gyfer rhai cymeriadau cyfarwydd o'r antur hon yn ymwneud â Holmes. Mae wedi bod yn hwyl dod â'r fersiwn hon yn fyw. Gallwch ddisgwyl llawer o egni, comedi gorfforol, cymeriadau cofiadwy a, chryn dipyn o chwys. Os ydych chi'n eistedd yn y rhesi blaen, efallai na fyddai gwisgo poncho yn syniad gwael o gwbl.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i fy mrawd a’m chwaer-yng-nghyfraith am adael i mi aros yn eu carafán yn Aberllydan tra rwyf yma. Mae hyd yn oed cyfnod byr yn byw yn y rhan hon o Gymru yn ddigon i’ch atgoffa pa mor arbennig ydyw. Rhwng sesiynau ymarfer, rwyf wedi mwynhau teithiau cerdded hir, ychydig o ymlacio, a’r cyfle i ddysgu llinellau wrth wrando ar sŵn y môr. Mae’n lle gwych i fyw a gweithio. Pa mor lwcus yw cael hyn oll, a theatr anhygoel hefyd.

Rick Yale: Mae “The Hound of the Baskervilles wedi bod yn dipyn o gyfnod gwallgof, i fod yn onest!

Rwy'n chwarae rhan Syr Henry Baskerville, ochr yn ochr â chymeriadau eraill, sy'n golygu bod LLAWER yn digwydd. Mae cyflymder y sioe yn ddi-baid yn llwyr. Rydych chi'n newid cymeriadau, lleisiau, iaith y corff a gwisgoedd yn gyson – weithiau gyda'r hyn sy'n teimlo fel rhyw dair eiliad i gofio pwy y dylech chi fod nesaf.

Mae'n un o'r sioeau hynny lle na allwch chi wir ddiffodd eich meddwl. Rydych chi'n gwrando ar yr hyn sy'n digwydd, yn aros i fynd ar y llwyfan nesaf, yn ceisio cofio eich llinellau, yn newid dillad ac yn gobeithio nad ydych chi wedi gwisgo'r wisg anghywir ar ddamwain. Mae rhyw fath hyfryd o anhrefn iddi, a dw i'n meddwl mai dyna sy'n ei gwneud yn gymaint o hwyl.

Mae comedi yn debygol o fod yn un o'r heriau mwyaf i mi. Mae mor hawdd meddwl mai dim ond dweud y llinell ddoniol sy'n bwysig wrth fod yn ddoniol, ond mewn gwirionedd, yr amseru, y rhythm, yr ymatebion a gwybod pryd i beidio â gwneud dim byd o gwbl sy'n gwneud i gomedi weithio. Gallwch ymarfer rhywbeth ddeng gwaith ac yna sylweddoli'n sydyn mai'r peth mwyaf doniol yw edrych ar rywun am hanner eiliad yn hirach!

Mae chwarae rhan Sir Henry yn dipyn o hwyl, gan ei fod wedi cael ei ollwng yng nghanol y gwallgofrwydd llwyr hwn ac yn ceisio deall beth ar y ddaear sy'n digwydd. Mae ganddo gymysgedd hyfryd o hyder, dryswch ac anghrediniaeth lwyr, sy'n rhoi digonedd o gyfle i mi arbrofi gyda'r cymeriad.

Ac yna, wrth gwrs, rydw i'n cael diflannu a dychwelyd fel rhywun hollol wahanol! Credaf mai dyna'r peth rwy'n ei fwynhau fwyaf am y cynhyrchiad hwn. Mae'n gyflym, yn wirion, yn ffisegol ac ychydig yn wallgof, ac mae'n gofyn llawer gennych fel actor. Mae'n rhaid i chi ymrwymo i'r gwallgofrwydd ac ymddiried yn y bobl o'ch cwmpas.

Felly, os byddwch chi’n dod i weld The Hound of the Baskervilles, cewch chi ddirgelwch, llofruddiaeth, comedi, cymeriadau niferus a grŵp o actorion yn rhedeg o gwmpas yn ceisio cadw popeth at ei gilydd.

Beth allai fynd o'i le?

Jess Dyas: Mae chwarae rhan Dr Watson yn wirioneddol wych. Mae cymaint o haenau i'w harchwilio a'u cyfleu: menyw yn chwarae rhan dyn, actores yn chwarae cymeriad, a'r holl gamgymeriadau a sefyllfaoedd digrif sydd wedi'u hysgrifennu yn y sgript. Mae'r sioe yn un gyflym a bywiog, felly mae dysgu ein llinellau (a llinellau ein gilydd) wir wedi helpu'r broses i symud yn ei blaen. Does dim lle i gamgymeriadau. 

Ar hyn o bryd, rydw i'n drysu o bryd i'w gilydd ac yn crwydro mewn cylchoedd gan weiddi "Sir Henry".... Ond fe fydd popeth yn iawn ar y noson! Mae'r gwisgoedd yn hyfryd (mae Kevin wastad yn gwneud gwaith gwych). Maen nhw wir yn fy helpu i ymgorffori'r cymeriad. Wedi'r cyfan, pwy sydd ddim yn mwynhau gwisgo siwt tri darn a het 'bowler'?

Rydym wedi cael cyfarwyddwr ymladd a chyfarwyddwr agosatrwydd (Bethan Eleri) i helpu i wireddu gweledigaeth Chelsey a sicrhau ein bod yn ddiogel wrth ymladd neu wrth ymgymryd â golygfeydd mwy agos-atoch. (Chwinc) Mae Chelsey yn gyfarwyddwr dewr ac rydym oll yn rhoi ein holl egni yn y cynhyrchiad hwn – does dim terfyn ar yr hyn y gallwn ei gyflawni! Dewch draw i brofi'r holl gyffro a'r anhrefn os meiddiwch!!! Welwn ni chi yn yr awditoriwm, gynulleidfa annwyl!

Gellir gweld The Hound of the Baskervilles ar lwyfan Theatr Torch am gyfnod cyfyngedig iawn, o ddydd Mercher 7 Hydref i ddydd Sadwrn 17 Hydref. Perfformiad gyda dehonglydd BSL: 13 Hydref am 7.30pm. Tocynnau o £18. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

 

 

 

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.