Enillwyr â Llygaid Barcud yn Ennill Tocynnau i'r Pantomeim
Mae bron i 30 o docynnau am ddim wedi’u rhoi i enillwyr lwcus mewn cystadleuaeth gan Theatr Torch dros y misoedd diwethaf, ac mae rhagor o docynnau ar gael. Mae Puss, prif gymeriad Puss in Boots – pantomeim Cwmni Theatr Torch ar gyfer 2026 – wedi colli ei bŵts pinc ffasiynol, ac mae angen i chi ddod o hyd iddyn nhw.
O Solva Bay View Stores i Lyfrgell Aberdaugleddau, ac o Fenton Vets yn Hwlffordd i Siop Bentref Boncath, mae’r bŵts pinc wedi bod yn crwydro Sir Benfro ac wedi cael eu cuddio mewn gwahanol leoedd er mwyn i bobl ddod o hyd iddyn nhw. Mae’r rhai lwcus sy’n dod o hyd i’r bŵts wedi ennill dau docyn i weld y pantomeim Nadoligaidd fis Rhagfyr hwn, lle gallant weld ‘Puss’ yn perfformio’n fyw ar y llwyfan.
Elonwy Howell o bentre’ Crymych, mam i ddau, yw enillydd lwcus dau docyn ar ôl dod o hyd i’r bŵts yn siop CCF Crymych – ond nid oedd dod o hyd i’r bŵts yn dasg hawdd.
“Anfonodd ffrind a chydweithiwr neges ataf ynglŷn â chystadleuaeth Theatr Torch, gan ddweud mai’r cyfan oedd angen i mi ei wneud oedd dod o hyd i’r bŵts pinco. Ar ôl gwylio’r fideo ar dudalen Facebook Theatr Torch ac adnabod CCF, galwais heibio yn ystod fy egwyl. Roeddwn i braidd yn disgwyl i rywun arall fod wedi cyrraedd yno o’m blaen yn ystod y bore, felly roeddwn i wrth fy modd o ddarganfod mai fi oedd y cyntaf i gyrraedd! Doeddwn i ddim yn gwybod bryd hynny mai dim ond y man cychwyn oedd dod o hyd i’r lle,” meddai Elonwy, sy’n methu aros i weld y sioe.
Ychwanegodd: “Pan es i i mewn i’r siop, dywedwyd wrthyf fod yn rhaid i mi chwilio am y bŵts – ac yn sydyn, roedd y siop yn teimlo’n fawr iawn! Mae’n debyg fy mod i wedi cerdded i lawr pob eil ddwy neu dair gwaith, ond doeddwn i ddim yn gallu eu gweld nhw. Dechreuais yn un pen, a dechrau chwilio drwy dybiau o ddillad ac edrych y tu mewn i finiau (gan wneud fy ngorau i beidio â gwneud gormod o lanast wrth fynd yn fy mlaen).”
Ar un adeg, gofynnais a oeddent yn cau am ginio, oherwydd roedd posibilrwydd cryf y byddwn i’n dal yno – ac roeddwn i wedi cyrraedd y pwynt lle nad oeddwn i’n mynd i adael nes i mi ddod o hyd iddyn nhw! Yn y diwedd, des i o hyd i’r bŵts ar waelod twb o raffau. Ww-hw!”
Mae'r gystadleuaeth wedi bod ar y gweill ers mis Medi, yn dilyn Sioe Sir Benfro lle lansiodd Theatr Torch ei hymgyrch bantomeim.
“Mae’r gystadleuaeth wedi achosi cryn gyffro yn Sir Benfro, gyda phobl yn rhuthro i wahanol leoliadau i ddod o hyd i’r bŵts. Maen nhw wedi cael llawer o hwyl yma, ac acw, ac ym mhobman – ac nid yw’r cyffro drosodd eto, gan y bydd y gystadleuaeth yn parhau tan ganol mis Rhagfyr. Felly, cadwch lygad allan am y bŵts a dechreuwch chwilio!” meddai Anwen Francis o Dîm Marchnata Theatr Torch.
Dywedodd Elonwy, yn llawn llawenydd: “Dw i wrth fy modd fy mod wedi ennill y tocynnau – pwy sydd ddim yn mwynhau pantomeim da cyn y Nadolig?! Dw i’n caru pantomeimiau, ond dw i ddim wedi bod ers rhai blynyddoedd. Felly, rwy’n gobeithio mynd â fy mab ieuengaf gyda mi i’r un yma – dyma fydd ei brofiad cyntaf erioed o bantomeim! Gobeithio y gallwn ni fynd ag aelodau eraill o’r teulu gyda ni hefyd, a hoffwn feddwl mai dyma ddechrau traddodiad Nadolig newydd – mynd bob blwyddyn. Diolch yn fawr iawn am hyn – mae’n mynd i wneud y Nadolig hwn ychydig yn fwy arbennig!”
Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr hyd at ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad mewn Amgylchedd Ymlaciol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad gyda dehonglydd BSL: Dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau drwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Dewch i'r Sbotolau!
Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.