CAST PERRRFFAITH AR GYFER PUSS IN BOOTS
Mae'r Nadolig ar garreg drws, ac nid yw'n hir bellach cyn i gast 'perrffaith' o actorion proffesiynol lleol gamu ar lwyfan Theatr Torch ar gyfer y pantomeim Nadoligaidd blynyddol – Puss in Boots, gyda thema'r Gorllewin Gwyllt. Bydd digon o fewian ar lwyfan, ac mae'n sicr o fod yn 'gath-tastig! Ydych chi'n barod un pawen, dwy bawen ... meow?!
Y mis Rhagfyr hwn yn y Torch – yr unig theatr broffesiynol sy’n cynhyrchu gwaith yn Sir Benfro – bydd rhan ‘Puss’ yn cael ei chwarae gan Freya Dare, yr actors wych lleol. Chwaraeodd hi ran y Puffin hyfryd a swynol llynedd yn y cynhyrchiad o Rapunzel. Bydd Lloyd ‘the legs’ Grayshon yn ymddangos fel Savannah Montana – y ‘Fonesig’ sy’n byw ei breuddwyd o fod yn Dolly Parton. Bydd y dihiryn, Sheriff Steele, yn cael ei bortreadu gan Samuel Freeman o Aberdaugleddau – dyn sy’n saethu’n dda – tra bydd Callum Anthony yn chwarae rhan Twm Foolery. Bydd Kelly Jackson, sy’n gyflym iawn gyda’i gwn, yn chwarae Bonnie-Anne Clyde (y Dylwythen Deg a Cat Lady), ac Elinor ‘Calamity’ Crane yn chwarae rhan Seren, Dirprwy’r Siryf.
Fyddai'r Nadolig yn y Torch ddim yn teimlo'n hollol yr un peth heb Lloyd Grayshon, ac mae'r theatr wrth ei bodd yn ei groesawu'n ôl fel Savannah Montana, y 'Fonesig'.
“Mae Savannah yn berchennog tafarn yn Milford ye-Haven sy’n gynnes ei chalon, yn ffyrnig o ffyddlon ac yn rhyfeddol o anhrefnus. Mae hi’n caru ei theulu, yn dymuno’r gorau bob amser, ac yn rhywsut yn cael ei hun yng nghanol trafferthion ble bynnag y mae hi’n mynd. Mae Lloyd (a’i goesau unigryw) wedi dod yn ffefryn mawr yr adeg hon o’r flwyddyn ymhlith cynulleidfaoedd yn Sir Benfro dros y blynyddoedd, ac rwy’n siŵr na fydd eleni’n eithriad,” eglurodd Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch.
Ychwanegodd: “Wrth ei hochr, bydd ein harwr clyfar a dewr, Puss; Siryf twyllodrus sydd â’i gyfrinachau ei hun; y Dirprwy Siryf, Seren, sy’n ceisio gwneud y peth iawn; Tylwythen Deg hudol sy’n cadw llygad ar y digwyddiadau; a choblydd sydd wedi cael rhediad o anlwc, Twm Foolery – ac maen nhw i gyd yn helpu i ddod â’r antur hon yn y Gorllewin Gwyllt yn fyw.”
Yn flewog ac yn llawn hwyl yr ŵyl – gyda Puss ei hun eisoes yn ceisio dal ei chynffon wrth iddi redeg yn gyflym o amgylch y Torch – dyma bantomeim na ddylech ei golli, fel yr eglura Anwen Francis o Dîm Marchnata Theatr Torch:
“Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddod â’r pantomeim Nadoligaidd hwn atoch, a lwyfannir gan gwmni cynhyrchu o’r radd flaenaf yma yn Sir Benfro. Mae tocynnau eisoes yn gwerthu’n gyflym iawn, ac gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard, wrth y llyw – yn dilyn llwyddiant beirniadol ei phantomeim blaenorol yma – mae gwylwyr, hen ac ifanc, mewn am wledd wirioneddol hyfryd.”
Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr hyd ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad mewn Amgylchedd Ymlaciol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad gyda dehongliad BSL: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau drwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Dewch i'r Sbotolau!
Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.