Mynd am Dro Gath-tastig yn y Torch y Nadolig Hwn

Mae Theatr Torch yn croesi ei phawennau y bydd Puss in Boots – pantomeim yr ŵyl – yn denu torfeydd mawr fis Rhagfyr eleni. Wrth y llyw bydd Chelsey Gillard, y Cyfarwyddwr Artistig. Mae Chelsey yn datgelu’r cyfrinachau ac yn trafod yr hyn y gall y gynulleidfa ei ddisgwyl... ac mae gwledd wirioneddol ar y gweill!

Aeth Anwen o’r Tȋm Marchnata i gwrdd â Chelsey i ddysgu rhagor...

Beth sy'n dy arwain i ddewis pantomeim penodol ar gyfer cynulleidfaoedd yn Sir Benfro, a pham wyt ti wedi dewis Puss in Boots (gyda thema'r Gorllewin Gwyllt)?

Mae dewis pantomeim bob amser yn golygu cydbwyso traddodiad â syndod. Gwyddom fod llawer o deuluoedd yn Sir Benfro yn ymweld â Theatr Torch adeg y Nadolig fel rhan o’u gwyliau; felly, rydym am gyflwyno stori sy’n teimlo’n gyfarwydd ac yn groesawgar, ond sydd hefyd yn cynnig rhywbeth newydd i’w archwilio bob blwyddyn.

Roedd Puss in Boots yn cynnig popeth roeddem ei angen. Mae’n llawn antur, comedi, hud a phrif gymeriad gwych; yn ogystal â hyn, mae’n deitl nad ydym wedi’i weld ar ein llwyfan o’r blaen. Daeth y syniad o osod y stori yng ‘Ngorllewin Gwyllt Cymru’ gan ein cyfansoddwr a’n hyssgrifennwr caneuon hynod dalentog, James Williams. Rhoddodd gyfle i ni gael llawer o hwyl gyda’r stori. O drefi anial ar y ffin a chymeriadau a hanner, i anhrefn y cowbois a digon o gyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan – roedd yn teimlo fel y dewis perffaith ar gyfer pantomeim Nadolig yn y Torch.


Faint o 'fyrfyfyr' ydych chi'n ei ganiatáu yn y pantomeim?

Llai nag y mae pobl yn ei feddwl!

Dylai pantomeim da deimlo'n ddigymell, a gall rhai o'r eiliadau mwyaf doniol ddigwydd pan fydd perfformwyr yn ymateb i rywbeth annisgwyl gan y gynulleidfa. Ond nid yw'r rhyddid hwnnw'n gweithio ond oherwydd bod y sgript ei hun wedi'i chynllunio a'i hymarfer yn ofalus iawn.

Rydym bob amser yn gadael lle i'n perfformwyr profiadol chwarae gyda'r gynulleidfa ac ymateb i'r hyn sy'n digwydd ar y funud, ond rhaid i bopeth, serch hynny, wasanaethu'r stori. Y nod yw sicrhau bod pob cynulleidfa'n teimlo bod y perfformiad yn unigryw iddyn nhw, tra'n sicrhau bod y sioe yn parhau i symud ymlaen ar y cyflymder cywir.


Pan fyddi di’n ysgrifennu'r sgript, a wyt ti’n dychmygu'r set, y gwisgoedd a'r actorion posib rwyt ti’n ysgrifennu ar eu cyfer?

O, yn bendant, ydw. Un o bleserau ysgrifennu ar gyfer y Torch yw fy mod i'n adnabod y llwyfan mor dda. Wrth i mi ysgrifennu, rwy'n dychmygu sut olwg fydd ar olygfeydd ar y llwyfan, sut y bydd un lleoliad yn trawsnewid yn un arall, a pha eiliadau all greu'r math o hud rydym i gyd yn ei garu adeg y Nadolig.

Rwy'n gweithio mewn dull cydweithredol iawn gyda'n Dylunydd Set a Gwisgoedd, Kevin Jenkins. Yn aml, mae angen dylunio elfennau mawr o'r set a'r gwisgoedd cyn bod y fersiwn derfynol o'r sgript yn barod; felly, mae gan Kevin le i gyfrannu ei syniadau ei hun, ac rwy'n hapus i'w plethu i mewn i'r stori.

Ni allwch hefyd beidio â meddwl am y perfformwyr anhygoel sy'n rhoi bywyd i'r sioeau hyn. Er bod rhaid i'r sgript weithio ar y dudalen, mae bob amser yn gyffrous dychmygu sut y gallai actorion penodol fynd i'r afael â jôc, cân neu ran sy'n gofyn am gyfranogiad y gynulleidfa. Mae theatr yn ffurf gelfyddydol sy'n dibynnu'n fawr ar gydweithio, ac mae hynny'n wir am bantomaim yn fwy nag am y rhan fwyaf o fathau eraill o theatr.


Pa mor bwysig yw cyfranogiad y gynulleidfa i oedolion a phlant, a pham?

Mae hynny wrth wraidd yr hyn sy'n gwneud pantomeim yn rhywbeth arbennig.

I blant, yn aml dyma'r tro cyntaf iddynt brofi math o theatr lle anogir hwy i weiddi allan, ymuno a dod yn rhan o'r stori. Mae rhywbeth hudolus wrth eu gweld yn sylweddoli bod y cymeriadau wir yn gallu eu clywed.

I oedolion, mae'n gyfle i anghofio am eu hunain am gwpl o oriau a chael hwyl. Un o'r pethau rwy'n eu hoffi fwyaf am bantomeim yw gweld neiniau a theidiau, rhieni a phlant i gyd yn chwerthin gyda'i gilydd ar yr un pryd.

Adeg y Nadolig yn enwedig, mae'r profiad a rennir hwnnw'n teimlo'n wirioneddol bwysig. Am gyfnod byr, mae cannoedd o bobl yn dod at ei gilydd yn yr un ystafell ac yn syml yn mwynhau eu hunain, ac mae hynny'n rhywbeth eithaf arbennig.


Mae 'Puss in Boots' yn hen stori, felly beth all cynulleidfaoedd ei ddisgwyl gan y pantomeim hwn yn 2026?

Er bod y stori dylwyth teg yn ganrifoedd oed, mae hon yn bendant yn bantomeim modern.

Gall y gynulleidfa ddisgwyl yr holl elfennau traddodiadol y byddent yn eu disgwyl gan sioe Nadolig y Torch: digon o chwerthin, cerddoriaeth, cyfranogiad gan y gynulleidfa, gwisgoedd disglair, cyfeiriadau lleol ac ychydig o syrpréis ar hyd y ffordd. Bydd y caneuon hefyd yn deyrngedau gwych i’n hoff sêr cerddoriaeth ‘Country and Western’, gyda geiriau a cherddoriaeth wreiddiol a fydd yn eich gwneud chi eisiau canu gyda nhw.

 

Ar yr un pryd, rydym wedi gweithio’n galed i adrodd y stori mewn ffordd sy’n teimlo’n ffres ac yn berthnasol. P’un a ydych chi’n dair neu’n bedwar ar ddeg a phedwar ugain oed, dylai fod rhywbeth yma i chi.


Disgrifia rhai o'r cymeriadau yn y pantomeim, ac a fydd y 'Fonesig' poblogaidd (Lloyd Grayshon o Sir Benfro) yn dychwelyd?

Yn bendant! Fyddai'r Nadolig yn y Torch ddim yn teimlo'n hollol yr un fath heb Lloyd Grayshon, ac rydym wrth ein bodd yn ei groesawu'n ôl fel Savannah Montana, ein 'Fonesig'.

Mae Savannah yn berchennog tafarn yn Milford ye-Haven sy’n gynnes ei chalon, yn ffyrnig o ffyddlon, ac yn rhyfeddol o anhrefnus. Mae hi’n caru ei theulu, yn dymuno’r gorau bob amser, ac yn rhywsut yn cael ei hun yng nghanol trafferthion ble bynnag y mae hi’n mynd. Mae Lloyd (a’i goesau hyfryd) wedi dod yn ffefryn mawr adeg y Nadolig ymhlith cynulleidfaoedd yn Sir Benfro dros y blynyddoedd, ac rwy’n siŵr na fydd eleni’n eithriad.

O'i hochr hi, mae ein harwr clyfar a dewr, Puss; Siryf twyllodrus sydd â'i gyfrinachau ei hun; y Dirprwy Siryf Seren sy'n ceisio gwneud y peth iawn; Fferi hudolus sy'n cadw llygad ar y digwyddiadau; a Twm Foolery, crydd sydd wedi cael rhediad o anlwc – ac maent oll yn helpu i ddod â'r antur hon yn y Gorllewin Gwyllt yn fyw.



Pa mor ffyddlon i'r stori wreiddiol yw cynhyrchiad Theatr Torch?

Mae craidd y stori wreiddiol yn dal i fod yno i raddau helaeth.

Byddwch yn adnabod y gath glyfar sy'n defnyddio ffraethineb a phenderfyniad i helpu i newid ffawd, ond rydym wedi ehangu'r byd o amgylch y stori honno i greu antur Nadolig lawn, wedi'i lleoli yma yn Milford.

Dyna, mewn gwirionedd, yw'r hyn y mae pantomeim yn ei wneud orau. Mae'n cymryd stori dylwyth teg gyfarwydd ac yn ychwanegu comedi, cerddoriaeth, hud, cyfranogiad y gynulleidfa a digon o droeon annisgwyl. Felly, er y byddwch yn gweld y Puss in Boots gwreiddiol yn y gwaelod, gall y gynulleidfa ddisgwyl rhywbeth llawer mwy, llawer doniolach, ac un sy'n unigryw i'r Torch. Ond yn anffodus, does dim ogres gwyrdd mawr na asynnod sy'n siarad yn ein fersiwn ni!

Ond, wrth gwrs, mae yna ychydig o gyffyrddiadau o Sir Benfro i'w gweld hefyd. Wedi'r cyfan, ni fyddai'n bantomeim yn y Torch hebddynt.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i chi baratoi ar gyfer pob pantomeim?

Rwyf eisoes wedi dechrau gweithio ar y sioe ar gyfer 2027! Rydym wedi dewis teitl, ac rwyf yn dechrau meddwl am y troeon annisgwyl – y ‘troeon Torch’ – a fydd yn rhoi disgleirdeb ychwanegol i’r stori.

Mae paratoi go iawn ar gyfer y pantomeim nesaf yn dechrau bron cyn gynted ag y daw’r un presennol i ben. Rydym yn treulio amser yn ystyried beth a weithiodd yn dda, i beth ymatebodd y gynulleidfa, a beth allwn ei wneud yn wahanol y flwyddyn ganlynol.

Unwaith y bydd y sgript wedi’i chwblhau yn y gwanwyn, mae’r tîm creadigol yn rhoi bywyd iddi drwy ddylunio’r set a’r gwisgoedd, dewis y cast, ymarferion, coreograffi, goleuo a sain. Erbyn i’r llen godi, mae cannoedd o oriau wedi’u buddsoddi yn y gwaith o greu’r cynhyrchiad.

Mae’r gynulleidfa’n gweld y hud a lledrith gorffenedig adeg y Nadolig, ond mewn gwirionedd, mae pantomeim yn ganlyniad i fwy na blwyddyn o gynllunio, creadigrwydd a chydweithio gan dîm cyfan y Torch.

Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau trwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.