Archwilio'r Ymdeimlad o Berthyn trwy Ysgrifennu
Ers bron i 50 mlynedd, mae Theatr Torch yn Aberdaugleddau wedi meithrin enw da fel cartref ar gyfer gwaith ysgrifennu newydd yng ngorllewin Cymru, ac am hyrwyddo straeon Cymreig a straeon a grëwyd yng Nghymru, a’u rhannu â chynulleidfaoedd ledled y DU a thu hwnt. Wrth i Theatr Torch agosáu at ei hanner canrif y flwyddyn nesaf, roedd y theatr am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddramodwyr a storïwyr drwy greu Prosiect Straeon Cynefin ar gyfer pobl ifanc Sir Benfro.
Wedi'i ariannu gan Sefydliad RWE, mae eu cefnogaeth hael o £50,000 wedi galluogi Theatr Torch i gyflwyno Prosiect 'Straeon Cynefin' – ei brif raglen addysg – yn rhad ac am ddim i bobl ifanc ledled Sir Benfro. Mae 16 o ysgolion, yn ogystal ag aelodau o rwydwaith addysg gartref y sir, wedi elwa o’r sesiynau ysgrifennu dan arweiniad saith dramodydd – rhai sy'n dod o'r sir neu sydd â chysylltiadau cryf â Theatr Torch – gan rymuso disgyblion a'u cymunedau.
“Mae’r bartneriaeth yn adlewyrchu ein huchelgais ar y cyd i ddarparu cyfleoedd o ansawdd uchel i bobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau, hyder a chysylltiad cryfach â’r lle rydym i gyd yn ei alw’n gartref,” eglurodd Tim Howe, Pennaeth Ieuenctid a Chymuned yn Theatr Torch.
Ychwanegodd: “Roeddem yn gwybod y byddai angen cefnogaeth i roi lle canolog i leisiau a phrofiadau pobl ifanc yn nathliadau pen-blwydd Theatr Torch yn 50 oed. Gan fod gennym ymrwymiad ar y cyd i gefnogi pobl ifanc ac ehangu cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, daeth Sefydliad RWE yn bartner prosiect delfrydol.”
Bydd gweithio gyda dramodwyr proffesiynol dros bedwar sesiwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, gan gynnwys sgiloai cyfweld, ysgrifennu creadigol a golygu, fel y mae Ceri Ashe, un o’r dramodwyr sy’n ymweld, yn egluro:
“Mae wedi bod yn brosiect mor gyffrous i fod yn rhan ohono hyd yn hyn. Mae’n wych gweld ymateb y plant pan ddywedaf wrthynt y gall y sioe fod yn unrhyw beth sy’n eu hysbrydoli, a gweld beth maen nhw’n ei greu. Rwy’n edrych ymlaen at weld y straeon y byddant yn eu llunio yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei ddarganfod yn y cyfweliadau maen nhw’n eu cynnal gyda phobl yn y gymuned.
“Theatr gair am air yw fy arbenigedd fel dramodydd felly mae’n gyfle gwych i gyfuno fy hoffter o weithio gyda phobl ifanc a fy angerdd fel dramodydd a chael lleoliad fel Theatr Torch i weithio gyda hi yn Sir Benfro.”
Yn ogystal â'r gweithdai i'r dysgwyr, bydd athrawon yn yr ysgolion yn cael sesiynau hyfforddi i gefnogi dysgu'r myfyrwyr y tu hwnt i gyfnod y prosiect, ac yn sicrhau etifeddiaeth iach a chynhyrchiol.
Mae disgyblion yn Ysgol Aberdaugleddau eisoes wedi ymgymryd â’r prosiect yn frwdfrydig, ac mae’r effaith hirdymor y mae’r prosiect yn ei chael ar bobl ifanc ledled y sir yn drawiadol, fel yr eglura Elizabeth Greenish, athrawes Saesneg a Drama’r ysgol:
“Ar ôl Diwrnod 1 o brosiect Cynefin, rwy’n falch iawn o ddweud bod ein holl ddisgyblion a gymerodd ran wedi mwynhau’r gweithdy yn fawr. Cawsant lawer o hwyl, fe wnaethant ymgysylltu’n dda iawn â’r gweithgareddau, ac ymateb yn gadarnhaol iawn i’r sesiwn.
“Roedd hi’n hyfryd eu gweld yn cymryd rhan, yn rhannu syniadau ac yn mwynhau’r cyfle i fod yn greadigol. Rydym wir yn edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect yn datblygu dros y sesiynau nesaf,” meddai Elizabeth wrth ddod i glo.
Am ragor o fanylion am Brosiect Cynefin, cysylltwch â Tim Howe yn Theatr Torch ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
Gwybodaeth am RWE Foundation GmbH
Mae RWE Foundation GmbH yn sefydliad rhyngwladol sy'n ymroddedig i degwch addysgol ledled Ewrop, gyda ffocws penodol ar yr Almaen, y Deyrnas Unedig a'r Iseldiroedd. Mae'r Sefydliad yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy gyfnodau pontio addysgol allweddol, ac yn eu helpu i symud ymlaen yn llwyddiannus o'r blynyddoedd cynnar, drwy'r ysgol, ac i gyflogaeth.
Rhoddir pwyslais arbennig ar gefnogi plant a phobl ifanc o gefndiroedd sy'n wynebu anfantais gymdeithasol. Drwy ariannu prosiectau sy'n cryfhau parhad mewn dysgu a chymorth, nod y Sefydliad yw lleihau rhwystrau yn ystod cyfnodau pontio addysgol a chreu cyfleoedd gwell ar gyfer llwyddiant addysgol hirdymor.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Dewch i'r Sbotolau!
Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.