Mynd y Cylch Cyfan yn y Torch

Gyda chysylltiadau teuluol yn Nhyddewi a bellach yn byw yn Hwlffordd, mae Zoe Wale – cyn-fyfyrwraig yng Ngholeg Sir Benfro – yn Ddirprwy Reolwr Llwyfan yn Theatr Torch ar gyfer ei chynhyrchiad mewnol o The Hound of the Baskervilles fis Hydref.

Ar ôl astudio Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Sir Benfro a Chelfyddydau Cynhyrchu yng Ngholeg Sir Gâr, Llanelli, astudiodd Zoe Reoli Llwyfan a Theatr Dechnegol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

“Mae’n hyfryd bod yn ôl yn byw yma. Roeddwn i’n arfer dod yma bob blwyddyn ar wyliau i weld fy nheulu, ac roeddwn i’n cymryd rhan mewn grwpiau drama amatur yma yn y Torch. Gweithiais fel Cynorthwyydd Rheolwr Llwyfan y llynedd pan lwyfannodd y Torch The Turn of the Screw, ac mae fel petawn i wedi dod yn ôl i’r man ble wnes i ddechrau,” meddai Zoe.

“Rwyf wrth fy modd ar fod yn yr ystafell ymarfer o’r dechrau i’r diwedd a gweld yr holl elfennau’n dod at ei gilydd, o’r dudalen i’r llwyfan. Mae’n rhaid i chi fod yn effro ac yn barod, ac mae fy rôl yn rhoi hwb adrenalin braf i mi,” ychwanegodd Zoe, y gweithiodd ei hewythr, Paul, yn y Torch dros 35 mlynedd yn ôl.

“Mae Theatr Torch mor hyfryd. Rwy’n cofio edrych tuag at y criw y tu ôl i’r llwyfan a meddwl: sut ydw i’n gwneud hyn? Sut ydw i’n mynd ati i fod yn rhan o’r tîm? Ac yn awr, dyma fi!” meddai Zoe gyda gwên.

Wrth fyfyrio ar sut y cyrhaeddodd Zoe y fan hon, mae hi’n dweud: “Y cyngor y byddwn i’n ei roi i unrhyw un sydd am weithio yn y diwydiant yw i chi wirfoddoli gyda grwpiau drama amatur, bwrw ati’n frwdfrydig, a chredu y byddwch chi’n cyrraedd y nod un diwrnod.” 

“Mae pawb yn hyfryd – y tîm cyfan; ac mae bod yma, yn gweithio yn Sir Benfro, yn teimlo fel cartref. Mae pawb yn lleol ac mae’r ymdeimlad o gymuned yn amlwg. Mae’r dewis o ddrama yn wirioneddol dda – mor ddoniol. Dw i’n meddwl bod angen rhywbeth i godi calon y gynulleidfa gyda’r holl bethau sy’n digwydd yn y byd, ac mae’r cynhyrchiad hwn yn taro’r nod yn berffaith,” meddai Zoe.

Gellir gweld The Hound of the Baskervilles ar lwyfan y Theatr Torch am gyfnod cyfyngedig iawn, o ddydd Mercher 7 Hydref i ddydd Sadwrn 17 Hydref. Perfformiad gyda dehonglydd BSL: 13 Hydref am 7.30pm. Tocynnau o £18. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.