Dewch i gwrdd ag Amanda yn 'Private Lives'
Bydd Private Lives (Noel Coward) yn ymddangos ar ein llwyfan o ddydd Mercher 4 Hydref am rediad o dair wythnos … Dewch i gwrdd â’r cast …dyma Claire Cage fel Amanda …
Mae Claire yn gyn-fyfyrwraig o Aberystwyth. Mae ei chredydau teledu yn cynnwys Coronation Street, Sherlock ac Emmerdale. Mae hi wedi gweithio gyda National Theatre Wales ac wedi cymryd rhan yn nrama Re-Live ‘Perthyn’ ar y cyd â Theatr y Torch felly bydd yn wyneb cyfarwydd i nifer ohonoch.
Mae ei chredydau theatr yn cynnwys “Taming of the Shrew” yn y Sherman wedi ei chyfarwyddo gan Michael Fentiman, “The Iliad” wedi ei chyfarwyddo gan Mike Pearson, a “Karen App’ gyda National Theatre Wales a Blast Theory. “Leviathan” gan Matthew Trevannian wedi ei chyfarwyddo gan Rachel O’Riordan, “An Enemy for the People” gan Gary Owen wedi ei chyfarwyddo gan Adele Thomas. Fe wnaeth chwarae rhan Joan yn “Sexual Perversity in Chicago” gyda Living Pictures Productions.
Rheda Private Lives am dair wythnos yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, gan agor ar ddydd Mercher 4ydd Hydref (noson y wasg dydd Iau 5ed) ddydd Sadwrn 21 Hydref ac mae’n falch o fod yn rhan o Ŵyl COWARD125 Sefydliad Coward, dathliad dwy flynedd o Noël. Bywyd rhyfeddol Coward yn y cyfnod cyn pen-blwydd Coward yn 125 yn 2024.
I archebu tocynnau, ewch i Swyddfa Docynnau Theatr y Torch https://www.torchtheatre.co.uk/private-lives/ neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.