MAE ANGEN EICH CYMORTH CHI AR PUSS I DDYLUNIO'R SET AR GYFER EI PHANTOMEIM NADOLIG

Mae Puss in Boots wedi colli ei thrysor yn ddofn ym mwyngloddiau Mynyddoedd y Preseli yma yn Sir Benfro! Mae’r trysor cudd sy’n llawn o sgwishmallows, labybs a jeli cathod wedi’u hamgylchynu gan un trysor arbennig sydd angen dod o hyd iddo ac mae Theatr Torch angen cymorth pobl ifanc greadigol i’w helpu gyda’u tasg fel y gall pantomeim y Nadolig – Puss in Boots gyda thema’r gorllewin gwyllt – fynd ymlaen!

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Theatr Torch wedi cynnal cystadleuaeth ddylunio lle gofynnwyd i blant ysgol ddylunio gwahanol wrthrychau ar gyfer llwyfan y pantomeim, o Wisg Ddawns Belle i'r Croc Aur mawr iawn a'r Aquantis gyda'i dentaclau hir. Mae ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth ar gynnydd ac mae miloedd o bobl ifanc lleol yn cystadlu'n flynyddol. 

“Ym mherfeddion y mwyngloddiau yng Gorllewin Cymru mae un o’r pethau mwyaf gwerthfawr ar y ddaear. Nid yw llawer o bobl wedi’i weld, ond mae’r rhai sydd wedi yn dweud mai dyma’r gwrthrych mwyaf prydferth maen nhw wedi’i weld. Mae’r gwrthrych hwn yn amhrisiadwy. Mae rhai’n dweud ei fod wedi’i orchuddio â phatrwm ysblennydd, mae eraill yn dweud ei fod wedi’i addurno â gemwaith a llewyrch. A dim ond un arwr sy’n ddigon dewr i fynd ar antur i’r mwynglawdd, dod o hyd i’r gwrthrych hwn a’i ddwyn yn ôl i ni i gyd ei weld!” meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch.

Ychwanegodd: “Ond beth ar y ddaear yw’r gwrthrych hwn, pa siâp ydyw, o beth mae wedi’i wneud? Mae angen i’ch pobl ifanc feddwl am bethau sy’n werthfawr iddyn nhw a llunio dyluniad ar gyfer gwrthrych arbennig ysblennydd i’w gynnwys ar lwyfan y Torchl! Yn wirion neu’n synhwyrol, rydyn ni am eu gweld nhw i gyd – a allai fod yn sgwter wedi’i wneud o aur solet? iPad wedi’i wneud o rwbi? Neu a yw’n rhyw fath o Lego diemwnt? Chi sydd i ddychmygu...”

Gallai'r lluniau dylunio fod mewn unrhyw fformat. Gallent fod wedi'u gwneud o gasgliad o ddelweddau a gweadau, toriadau allan o gylchgronau, stribedi o ddefnydd, wedi'u creu ar y cyfrifiadur neu gallent fod wedi'u llunio â llaw – gadewch i ddychymyg y bobl ifanc redeg yn wyllt.

Mae tri chategori oedran: Dan 5 oed, 5 – 10 oed ac 11 – 18 oed. Dewisir enillydd o bob categori, a bydd enillydd cyffredinol yn gweld ei ddyluniad yn cael ei droi’n wrthrych go iawn yn y pantomeim. Bydd yr holl ddyluniadau’n cael eu harddangos yn ein horiel yn ystod mis Rhagfyr.

Dylai pob delwedd fod ar ddarn o bapur A4 a dim mwy a chynnwys yr wybodaeth ganlynol ar y cefn: enw'r dylunydd, ysgol / coleg, manylion cyswllt. Anfonwch eich ceisiadau i: Puss in Boots – Treasure Hunt, Theatr Torch, Heol Sant Pedr, Aberdaugleddau, SA73 2BU erbyn dydd Sadwrn 12 Hydref.

Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau trwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.