FINDING HOME
Bydd Finding Home gan Mercury Theatre Wales yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Fawrth 2 Mai a nos Fercher 3 Mai am 7.30pm. Mae’n ddarn o theatr grymus a dylanwadol, a bydd yn archwilio straeon am ddigartrefedd.
Wedi’i ddyfeisio gan y cwmni a’i ysgrifennu gan Bethan Morgan, adrodda hanes criw amrywiol o gymeriadau sy’n cael eu taflu at ei gilydd i deulu dros dro wrth iddyn nhw wynebu heriau a chaledi bywyd heb gartref.
Wedi'i gyfarwyddo gan Lynn Hunter, mae'r straeon a adroddir yn seiliedig ar brofiadau go iawn a theithiau bywyd y rhai sydd wedi darganfod eu hunain heb gartref am wahanol resymau, gyda nifer ohonyn nhw wedi cymryd rhan yn natblygiad y ddrama.
“Mae cynhwysiant, integreiddio a grymuso oll yn arwain at ennill ymdeimlad o berthyn, hunan-werth a chyflawniad i bobl sydd â chartref parhaol a’r rheiny heb gartref parhaol. Gobeithiwn y bydd y darn yn datblygu gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r llu o bobl yn y gymuned o’n cwmpas ac yn helpu i fynd i’r afael â’r stereoteipiau cyffredinol sydd gan y cyhoedd am bobl ddigartref,” esboniodd Bethan Morgan, Cyfarwyddwr Artistig, Mercury Theatre Wales.
Ac mae Sitting on the Fourth Wall yn ychwanegu: "Archwilia Finding Home bwnc enfawr trwy straeon personol, agos-atoch, gan dynnu ei chynulleidfa i realiti digartrefedd trwy adrodd straeon theatraidd medrus”.
Bwriad y cwmni theatr o Gaerdydd yw cynhyrchu gwaith arloesol o safon uchel sy’n procio’r meddwl. Maent wedi ymrwymo i ddatblygu talent Gymreig a dod â darnau newydd o theatr i’r llwyfan Gymreig, wedi’u creu i fod yn berthnasol i gynulleidfaoedd cyfoes a’r cymunedau y maent yn ymgysylltu â nhw.
Bydd perfformiad cyn y sioe gan gyfranogwyr cymunedol am 7pm.
Rhybudd Cynnwys: Yn cynnwys themâu o ddigartrefedd, cam-drin, camddefnyddio sylweddau, brwydro yn erbyn PTSD, marwolaeth, iechyd meddwl a phrofiadau o'r system llysoedd teulu.
Bydd Finding Home yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Fawrth 2 Mai a nos Fercher 3 Mai am 7.30pm. Tocynnau’n £14 / £12 consesiwn. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu glicio yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.