Cyfuno syrcas awyr a theatr gyda disgrifiad sain integredig
Bydd yr artist, Sara Hartel, yn dod â ‘Foreigner in my Body’ i bum lleoliad ledled Cymru’r haf hwn, gan gynnwys Theatr Torch, Aberdaugleddau. Mae’r sioe’n cyfuno theatr, symudiad a syrcas awyr i archwilio profiad Sara fel person traws, a mudwr i Gymru, gyda disgrifiad sain integredig a chapsiynau, ar gyfer cynulleidfaoedd 13 oed a hŷn.
Mae Sara Hartel yn artist rhyngddisgyblaethol cyffrous, a aned yn yr Almaen ac sy'n byw yng Nghymru. Mae’r cyfuniad o ffurfiau celf a ddefnyddir wedi denu cynulleidfaoedd newydd pan cymysgwyd gemau â pherfformiadau byw yn GORE neu pan ysgogwyd y gynulleidfa i derfysg yn Strike Ltd.
Mae ‘Foreigner in my Body’ yn cyfuno syrcas awyr a theatr gyda disgrifiad sain integredig gan ei gwneud yn hygyrch i bobl ddall a phobl ag amhariad ar eu golwg. Mae’r tîm creadigol y tu ôl i’r sioe un person hon yn cynnwys y cyfansoddwr, Frances Bolley, a’r artist symudiad, Eddie Ladd.
Dywedodd Sara “Rwyf mor gyffrous i fod o’r diwedd yn dod â’r sioe hon, rydw i wedi bod yn ei datblygu ers blynyddoedd lawer, i gynulleidfaoedd yn Aberdaugleddau. Mewn cyfnod o wahaniaethu cynyddol tuag at gymunedau mudol a thraws, mae’n bwysig i mi allu rhannu stori lled-hunangofiannol sy’n canolbwyntio ar lawenydd. Rwyf hefyd yn angerddol bod y sioe mor hygyrch â phosibl, gyda chapsiynau integredig a disgrifiad sain ar gyfer cynulleidfaoedd dall, rhannol ddall, a byddar”.
‘Mae ‘Foreigner in my Body’ wedi’i wneud yn bosibl diolch i gefnogaeth a chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gellir ei gweld ar lwyfan Theatr Torch nos Fercher 29 Gorffennaf am 7.30pm. Tocynnau: £15 / £12 consesiynau. Archebwch docynnau trwy wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma. Mae tôn ddoniol a chwareus y sioe yn darparu noson allan hwyliog i oedolion a phobl ifanc.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.