Drama lwyfan arobryn Mark Rosenblatt am yr awdur plant Roald Dahl yn y Torch
Bydd GIANT, y ddrama 5 seren sydd wedi cael clod mawr gan feirniaid ac yn serennu John Lithgow (Killers of the Flower Moon, The Crown) fel Roald Dahl, yn cyrraedd sgrin Theatr Torch fis hwn. Yn enillydd 3 Gwobr Olivier® – gan gynnwys y wobr am y Ddrama Orau – yn ogystal â Gwobr Tony® am yr Actor Gorau mewn Drama (John Lithgow), cafodd y cynhyrchiad ei ffilmio’n fyw yn West End Llundain cyn iddo gael ei lwyfannu ar Broadway, lle gwerthwyd pob tocyn.
Mae awdur plant enwog sydd dan fygythiad. Brwydr ewyllysiau yn sgil sgandal. A chyfle unigryw i wneud iawn... Mae’n haf 1983; mae The Witches ar fin cyrraedd y silffoedd, ac mae Roald Dahl wrthi’n gwneud golygiadau munud olaf. Ond nid yw’r cythrwfl yn sgil ei erthygl ddiweddar – sy’n amlwg wrthsemitiaeth – yn tawelu. Yn ystod un prynhawn yn ei gartref teuluol, ac wedi’i ysgwyd gan gynhadledd annisgwyl a ffrwydrol, mae Dahl yn cael ei orfodi i wneud dewis: cynnig ymddiheuriad cyhoeddus, neu beryglu ei enw da. Wedi’i ysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, archwilia GIANT – gyda hiwmor tywyll – y gwahaniaeth rhwng barn a ystyriwyd a rhethreg beryglus.
Mae gan y ffilm gast o'r radd flaenaf, yn cynnwys Aya Cash (The Boys, The Franchise, You’re the Worst), Elliot Levey (Cold War, Patriots, Good) a Rachael Stirling (The Divine Mrs S), ac mae wedi cael adolygiadau gwych. Mae The Guardian yn rhoi pedair seren iddi, ac mae Matt Wolf, beirniad theatr Americanaidd sy'n gweithio yn Llundain, yn rhoi pum seren iddi. Yn ei adolygiad o'r ddrama ar gyfer London Theatres, mae'n nodi: “Mae John Lithgow yn rhoi perfformiad sydd, o bosibl, yn well nag unrhyw un arall yn ei yrfa yn y ddrama fawr iawn hon, sy'n hynod berthnasol i'r cyfnod presennol. Mae'r ddrama'n dod o hyd i gomedi yng nghanol dinistr seicolegol, ac yn dangos tosturi lle byddai eraill, llai talentog, ond yn teimlo dirmyg. 'Pwy ydych chi?' gofynnir yn y ddrama rymus hon tuag at y diwedd, ac mae'n sicr y bydd y cwestiwn sylfaenol hwnnw am ddynoliaeth yn aros yn ein meddyliau wrth i ni deithio adref.”
Gellir gweld Giant ar sgrin Theatr Torch ddydd Iau 19 Tachwedd am 7pm a dydd Sul 22 Tachwedd am 2pm. Tocynnau: £15 / £13 (consesiynau) / £8.50 (dan 26 oed). Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk am ragor o wybodaeth.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Dewch i'r Sbotolau!
Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.