Llwyddiant Euraidd Jac!
Mae'r aros drosodd o'r diwedd! Mae’n bleser gan Theatr Torch gyhoeddi mai Jac, disgybl 11 oed o Ysgol Uwchradd Hwlffordd, yw enillydd y gystadleuaeth dylunio Gwrthrych Aur ar gyfer pantomeim ysblennydd Jack and the Beanstalk eleni. Gwahoddwyd pobl ifanc o bob rhan o orllewin Cymru i ddylunio gwrthrych amhrisiadwy gwych na ellid ond dod o hyd iddo yn Ystafell Aur y Cawr. Gyda dros 150 o geisiadau ar draws pob ystod oedran, Jac sydd wedi’i goroni’n enillydd euraidd.
Roedd y beirniaid wrth eu bodd gyda chynlluniau fel sanau drewllyd, cacennau caws bythol, esgidiau pêl-droed disglair a phili-pala pefriog, ond roedd cynllun Jac ar gyfer esgidiau croc aur anferthol droedfedd uwchlaw’r gweddill! Llwyddodd Theatr Torch i gael sgwrs gyda'r enillydd teilwng i weld sut deimlad yw cael eich coroni'n bencampwr.
“Roeddwn i’n hapus iawn ac yn methu credu fy mod i wedi ennill. Rwy'n gyffrous i weld fy ‘sgidiau croc mewn maint mawr iawn! Mae gen i grocs ac roeddwn ni’n eu gwisgo pan oeddwn i'n meddwl beth allwn i ei greu. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddoniol eu gweld mewn maint enfawr,” meddai Jac wrth ei fodd.
Ychwanegodd: “Rwy'n meddwl mai grym hud y crocs ddylai fod i guddio arogl traed drewllyd iawn, felly maen nhw bob amser yn arogli'n braf. Rwy’n mynd i’r pantomeim bob blwyddyn felly ni allaf aros i weld fy syniad ynddo.”
Meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch:
"Diolch yn fawr iawn i bawb a wnaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Pleser pur oedd derbyn y ceisiadau gwych gan bobl ifanc ar draws y sir. Cawsom ein rhyfeddu'n fawr gan yr holl ddyluniadau hynod ddychmygus, lliwgar a phefriol. Er hynny, anodd oedd dod i benderfyniad a wnaethpwyd gan Kevin ein dylunydd, a Chelsey ein cyfarwyddwr. Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi Jac fel ein enillydd cystadleuaeth dylunio 2024. Allwn ni ddim ag aros i weld ein Jack yn ceisio achub croc Jac o Ystafell Aur y Cawr. Ac i bawb sy’n chwilfrydig nid yw Jac yn perthyn i’n Jack ni!”
Mae'r ail orau ym mhob categori fel a ganlyn: Dan 5: Gwilym a Lucie - y ddau wedi dylunio sanau drewllyd bendigedig! 5 i 11: Nell - a greodd pili-pala pefriog hardd. 11- 18 - Jayden - a anfonodd chwiban aur ogoneddus o bwerus atom sydd, pan fyddwch chi'n ei chwythu, yn dweud "Na."
Gan ddod i glo meddai Tim: “Os ydych chi am weld y dyluniad buddugol mewn bywyd go iawn yna dewch draw i'r Torch a gweld ein pantomeim sydd ar ein llwyfan trwy gydol mis Rhagfyr! A thra byddwch chi yma edrychwch ar yr holl gynigion eraill i’r gystadleuaeth a fydd yn cael eu harddangos yn ein horiel.”
Bydd Jack and the Beanstalk yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Gwener 13 Rhag – ddydd Sul 29 Rhagfyr 2024 gyda pherfformiadau prynahwn a gyda’r hwyr. Pris tocynnau: £23.50 | £19.50 Cons | £75.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ar ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad BSL – nos Fawrth 17 Rhagfyr am 6pm.
I archebu eich tocynnau neu am fwy o fanylion, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.