Iphigenia yn Sblot - dadansoddiad ffyrnig o gymdeithas
Bydd Iphigenia yn Sblot, yn teithio i 11 o leoliadau ledled Cymru ym mis Awst a mis Medi eleni. Bydd y sioe un-fenyw yn ymweld am y tro cyntaf â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ac yna cyfres o berfformiadau yn Theatr y Sherman cyn dod yma i Theatr Torch ar 18 Medi.
Seren Hamilton fydd yn cymryd y brif ran; ei pherfformiad mawr cyntaf wrth iddi orffen ei blwyddyn olaf yn astudio Actio yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Rose Bruford, ac Alice Eklund fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn, bron i ddegawd ar ôl iddo ddod yn llwyddiant ysgubol am y tro cyntaf.
Mae’r Iphigenia in Splott gwreiddiol yn sioe un-ddynes, yn ddadansoddiad ffyrnig o’n cymdeithas ac o’r bywydau caled sy’n dod ohoni. Ers ei dangosiad cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2015, mae wedi ennill Gwobr James Tait Black am Ddrama 2016 a’r Wobr Drama Newydd Orau yng Ngwobrau Theatr y DU 2015, ac fe deithiodd y cynhyrchiad gwreiddiol Ŵyl Ymylol Caeredin, ledled Cymru a’r DU a chyn belled ag Efrog Newydd a Berlin. Ail-lwyfannodd Lyric Hammersmith ef yn 2022, er clod mawr. Mae Iphigenia in Splott wedi'i chyfieithu a'i pherfformio mewn sawl iaith ledled y byd.
Wrth drafod y ddrama sydd wedi cael cefngaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, dywedodd Gary Owen: “Yn y naw mlynedd diwethaf mae Iphigenia in Splott wedi cael ei gweld ledled y byd. Dw i mor ddiolchgar i’r Sherman am ddod â’r sioe adre i Gymru. Ac fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg, mae’n anrhydedd i fod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol. Dw i methu ag aros i weld sut fydd Alice a Seren yn creu Effie hollol newydd.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Alice Eklund:
“Rydw i mor gyffrous i gyfarwyddo'r cynhyrchiad yma. Chwaraeodd Iphigenia yn Splott ran enfawr yn fy nghyflwyniad i ysgrifennu newydd ac ni allaf aros i weld stori Effie yn dod yn fyw yn y Gymraeg. Mae creu’r ddrama hon yn teimlo mor amserol, mor berthnasol ac yn wir angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae’r Sherman wedi teimlo fel cartref i mi ers 4 blynedd bellach ac rydw i mor ddiolchgar o gael y cyfle i ddod â’r ddrama eiconig yma i’r Stiwdio a ledled Cymru.
"Mae ysgrifennu Gary yn gweddu’n berffaith, ac roedd clywed y ddrama ar lafar am y tro cyntaf wedi cyfleu’r un teimlad egnïol a thanllyd arna i â’r darlleniad cyntaf yr holl flynyddoedd yn ôl. Rwy’n barod i ddechrau gyda’r tîm ar gynhyrchiad newydd o ddrama sydd ar flaen y gad ym myd ysgrifennu newydd yng Nghymru. Gan adeiladu byd newydd o gwmpas Effie, cawn fynd ar daith gyda hi, yn y fan a’r lle.”
Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig yn ogystal â golygfeydd y gall rhai aelodau o’r gynulleidfa deimlo’n ofidus.
Bydd Iphigenia yn Sblot yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch ar nos Fercher 18 Medi. Pris tocyn: Oedolyn: £16. Consesiwn: £14. O dan 26: £10. I archebu eich tocynnau ac am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.