Llong Norwyaidd a Ddinistriwyd yn Aberfelin yn Ysbrydoli Arddangosfa Gelf Newydd
Bydd paentiadau’r artist proffesiynol gweithiol, Warren Heaton o Sir Benfro, yn cael eu harddangos yn Oriel Joanna Field, Theatr Torch fis Mehefin mewn arddangosfa o’r enw Ragna – y ddolen sy’n cysylltu dwy gymuned arfordirol. Mae’r gyfres o baentiadau yn arddangosfa gydweithredol sy’n adrodd hanes llong Norwyaidd a ddrylliwyd yn Aberfelin ym 1900 a’r achub dramatig gan bentrefwyr Trefin.
Ar hyn o bryd, mae Warren a Helen, ei wraig, yn byw yn Llangwm, ac mae hi newydd orffen rhwyfo’r Iwerydd – maen nhw’n gwpwl morwrol iawn. Ac, fel mae Warren yn egluro, mae’r môr a’i heriau’n chwarae rhan bwysig yn eu bywydau.
“Roeddwn i a fy ngwraig yn byw yn Nhrefin pan ddechreuais siarad am y prosiect gydag Andy a Richard dros beint yn y Ship Inn. Gwisgodd y pentrefwyr i gyd i fyny a sefyll i mi dynnu eu lluniau, ac i mi eu peintio. A dyna lle dechreuodd y cyfan,” meddai Warren sydd ag oriel a stiwdio yn Solfach.
Ychwanegodd: “Rydym yn ceisio mynd â’r arddangosfa ar draws Sir Benfro ac yn y pen draw i Gaerdydd ac efallai hyd yn oed Norwy. Hyd yn hyn mae wedi bod i Dyddewi, Abergwaun ac yn amlwg Amgueddfa Trefin, ond byddai mynd â hi i Norwy yn anhygoel, oherwydd o’r fan honno tarddodd y Ragna.”
Mae Arddangosfa Gelf Ragna – y Cyswllt a Gysylltodd Dau Gymuned Arfordirol gan Warren Heaton, gyda chefnogaeth paneli dehongli gan Richard Cotton a dyluniad sain gan Andy Wheddon, yn cynnwys Mari-Anne Maddocks ac Eleanor Bennett, a gellir ei gweld yn Oriel Joanna Field o ddydd Mercher 3 Mehefin i ddydd Llun 29 Mehefin yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr y Torch torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.