JUSTIN MOORHOUSE - STRETCH AND THINK

Mae'r digrifwr ar ei sefyll a DJ radio adnabyddus o Fanceinion, Justin Moorhouse yn ôl am noson o chwerthin hollti bol yn Theatr y Torch ar ddydd Iau 13 Ebrill 2023.

Nid oes angen cyflwyniad ar Justin - ymddangosodd yn Phoenix Nights a Looking for Eric gan Peter Kay yn ogystal â chymryd rhan yng nghyfres 2010 o Sioe Deithiol Gomedi Michael McIntyre fel un o'r actau ategol.

Yn ddigrifwr, actor, cerddwr cŵn, rhiant, fegan cudd a jôcwr gogleddol, rhaid gweld Moorhouse yn ei sioe newydd sbon a all gynnwys ioga, heneiddio, Madonna, siopladron, Labradwdls, beicwyr canol oed, Y Menopos, rhedeg, yn casáu cefnogwyr pêl-droed ond yn caru pêl-droed, peidio ag yfed, angladdau, a ydyw Tapas yn dwyll?, Capten Tom, Droylsden, yr amgylchedd, hunan-wella, difetha sefyllfa rywiol, mannau gwefru ceir trydan a ddefnyddir gan doggers, graddio meithrinfa, ceffylau, rheiny sy’n debyg i Stig, bwyd cartref mewn mannau nad ydynt yn gartref i chi, manteision rhyfedd crefyddau sylfaenol, y gampfa a moesau drws siop.

Mae gan Moorhouse gyfoeth o brofiad ar lwyfan. Yn 29 oed, bu’n cystadlu mewn cystadleuaeth gomedi leol, gan ennill y rownd derfynol a gynhaliwyd yn y Comedy Store Manceinion a does dim edrych yn ôl. Yn fuan wedyn, perfformiodd mewn taith gomedi, cyn cael rôl Young Kenny yn Phoenix Nights. Er bod Young Kenny yn un o gefnogwyr Manchester City, mae Moorhouse ei hun yn cefnogi eu cystadleuwyr, Manchester United.

Bydd ei sioe newydd yn gwneud i chi chwerthin drwyddi draw, a chi’n gwybod beth…. mae ganddo siwt newydd. Dewch, bydd yn sbort.

Bydd Justin Moorhouse Stretch and Think yn fyw ar lwyfan Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar nos Iau 13 Ebrill 2023 am 8pm. Tocynnau: Oedolion: £15/ £5 di-waith a gellir eu harchebu o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.