Heriau Cath-tastig i’r Dylunydd Set a Gwisgoedd

Mae’r dylunydd set a gwisgoedd, Kevin Jenkins, yn wyneb cyfarwydd yn Theatr y Torch, gan ei fod wedi gweithio ar gynyrchiadau mewnol y theatr ers 2023, pan ddyluniodd Private Lives. Ers hynny, mae wedi dychwelyd ar gyfer Beauty and the Beast, Jack and the Beanstalk a Rapunzel; yn fwy diweddar, gweithiodd ar The Hound of the Baskervilles, a Puss in Boots fydd chweched cynhyrchiad Kevin yno hyd yma.

Mae’r pantomeim yn mynd i fod yn wych fel mae Kevin yn egluro:

“Mae wedi bod yn bleser cael dod i adnabod y theatr a’r tîm, a chael gwahoddiad i ddychwelyd bob blwyddyn. Un o’r pethau gwych am bantomeim yw bod modd cael llawer iawn o hwyl wrth greu byd y stori. Mae Chelsey Gillard, y Cyfarwyddwr Artistig, wedi cymryd y stori draddodiadol o ‘Puss in Boots’ a’i symud i’r Gorllewin Gwyllt, sy’n rhoi digon i ni chwarae ag ef.”

Mae'r setiau'n mynd â'r gynulleidfa trwy drefi ac anialwch, tafarnau a mwyngloddiau, gyda threnau a thanau gwersyll ar hyd y ffordd. Mae digon yn digwydd, ac yn sicr mae Kevin wedi wynebu ei gyfran deg o heriau.

“Mae pob pantomeim yn dod â'i heriau ei hun. Rydym bob amser eisiau iddo deimlo'n fwy ac yn fwy ysblennydd na'r flwyddyn flaenorol, ond nid yw'r llwyfan yn mynd yn fwy, ac nid yw'r gyllideb chwaith! Rhan o'r pos yw penderfynu pa lenni a setiau sy'n mynd ar y nifer cyfyngedig o’r bariau crogi.”

“Yn weledol, rydym wedi benthyg llawer o elfennau o’r traddodiad Americanaidd – y sêr a’r baneri yn benodol – ond rydym wedi rhoi naws Gymreig amlwg i bopeth. Rydym wedi cyfnewid y lliwiau cyfarwydd – coch, gwyn a glas – am goch, gwyn a gwyrdd, gan greu ein fersiwn ni ein hunain o ‘Welshicana’ yn arddull y Gorllewin Gwyllt. Mae’n dipyn o hwyl, ond mae hefyd yn helpu i roi hunaniaeth unigryw i’r cynhyrchiad cyfan.”

Puss yw prif gymeriad y pantomeim, ac fe’i chwaraeir gan yr actores leol, Freya Dare. Ond nid cath gyffredin mohoni, fel yr eglura Kevin:

“Mae Puss yn gymeriad hyfryd i’w ddylunio. Mae angen iddi edrych yn amlwg fel cath, ond hi hefyd yw ein harwres, felly mae angen cyfleu rhywfaint o hyder beiddgar ac agwedd. Doeddwn i ddim eisiau iddi edrych fel rhywun mewn gwisg anifail. Mae’n llawer mwy theatrig na hynny. Mae angen i Freya allu symud, dawnsio ac actio heb i’r wisg fod yn rhwystr, ac rydym am weld yr holl ymadroddion wyneb hynny. Mae yna hefyd ryw fath o ddisgleirdeb arbennig i’w golwg. Ac wrth gwrs, mae’r esgidiau’n eithaf pwysig! Mae hi’n mynd i fod yn gath hynod chwaethus!”

Fel sy'n wir am bob pantomeim yn y Torch, mae'r sioeau'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

“Rydym yn treulio misoedd yn creu setiau a gwisgoedd ar gyfer rhywbeth a allai redeg am ychydig wythnosau yn unig; felly, mae'n rhaid i ni feddwl yn ofalus am y deunyddiau rydym yn eu defnyddio a beth sy'n digwydd iddynt wedyn.”

“Un o’r pethau cyntaf yn edrych arnyn nhw yw’r hyn sydd gennym eisoes. A allwn addasu rhywbeth o gynhyrchiad blaenorol, ailddefnyddio setiau presennol, neu ddod o hyd i ddillad a ffabrigau ail-law? Efallai y bydd unrhyw un sydd wedi bod i bantomeimiau Theatr Torch dros y blynyddoedd diwethaf yn adnabod rhai o’r bwa-strwythurau, rydym wedi eu hailddefnyddio a’u haddasu ar gyfer sioeau gwahanol.

“Dydy hi ddim bob amser yn hawdd. Gall gwisgoedd pantomeim fod yn eithaf penodol, ac mae angen i’r set fod yn eithaf cadarn er mwyn goroesi cyfnod y perfformiadau. Mae ailddefnyddio ac addasu eitemau lle bynnag y bo modd yn gwneud synnwyr, yn amgylcheddol ac yn ariannol.”

Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr hyd at ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad mewn Amgylchedd Ymlaciol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad gyda dehonglydd BSL: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau drwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.