Dehonglydd BSL yn paratoi ar gyfer sioe Sherlock Holmes yn y Torch!

Gellir gweld *The Hound of the Baskervilles* – cynhyrchiad hydrefol mewnol Cwmni Theatr Torch – ar lwyfan Theatr Torch am gyfnod cyfyngedig iawn ym mis Hydref. Bydd Liz May, Dehonglydd BSL/Saesneg, yn bresennol ddydd Mawrth 13 Hydref ar gyfer perfformiad gyda dehongliad BSL, ac yn sicrhau bod sioeau Theatr Torch yn hygyrch i bawb.

Gyda llai na mis i fynd, mae Liz eisoes wedi derbyn y sgript ar gyfer The Hound of the Baskervilles, a bydd yn ei darllen fesul rhan nes bod ganddi ddealltwriaeth glir o'r stori cyn iddi ei throsi i BSL.

“Gall fod yn heriol. Mae BSL a Saesneg yn ieithoedd gwahanol. Mae’r strwythur, y gramadeg a’r nodweddion ieithyddol yn wahanol. Er enghraifft, ni fyddai ymadrodd Saesneg o reidrwydd yn cyfieithu’n uniongyrchol i BSL, felly mae’n rhaid i chi feddwl sut i gyfleu’r neges wrth gyd-fynd â’r sgript,” eglurodd Liz, sy’n wyneb cyfarwydd yn y Torch.

Gyda The Hound of the Baskervilles yn ymddangos yn ddewis da gan y Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard, gyda thocynnau’n udo allan o’r Swyddfa Docynnau ar gyflymder ci hela, mae Liz ei hun hefyd yn gefnogwr Sherlock Holmes, ond mae gan y cynhyrchiad cyflym hwn ei heriau.

“Mae’r perfformiad hwn yn gymhleth oherwydd mai dim ond ychydig o actorion sydd ‘da ni, ond nifer o gymeriadau. Er enghraifft, yr actor yw cymeriad 1 ond hefyd cymeriad 4. Yn fy marn i, rhaid dangos gwahaniaeth clir yn y cyfieithiad. Dyna pam rwy’n hoffi gwylio’r perfformiad; felly mae gen i ddelwedd glir a gallaf bortreadu’r cymeriad hwnnw’n gywir,” meddai Liz, sy’n cyfaddef ei bod hi’n mynd yn nerfus cyn sioe. 

“Ydw i’n teimlo’n nerfus? Ydw, ond i mi, mae’r nerfusrwydd yn bwysig. Mae’n fy helpu i ganolbwyntio ac yn ysgogi fy nghyffro. Mae’n fy ngalluogi i greu trosiad gwell. Heb y nerfusrwydd, dydy pethau ddim yn teimlo’n iawn.”

Ni all Liz bwysleisio’n ddigon cryf pa mor bwysig yw hi i theatrau ddefnyddio BSL yn eu perfformiadau – iaith y mae Liz yn ei disgrifio fel un “gyfoethog a hardd” – gan y dylai theatrau fod ar gyfer pawb. 

“Mae cael rhwystr yn anfantais, oherwydd bod llawer o bobl fyddar yn mwynhau’r celfyddydau, felly mae cael mynediad o’r fath yn bwysig. Os ydych chi am wylio perfformiad, mae’n well gwybod ymlaen llaw ble mae’r dehonglydd wedi’i leoli, er mwyn i chi allu eistedd yn y lle cywir ar gyfer y math o fynediad sy’n addas i chi. Mae hyn yn bwysig, a byddaf innau wedi fy lleoli i’r chwith o’r llwyfan o’r man lle mae’r gynulleidfa yn eistedd.”

Gellir gweld The Hound of the Baskervilles ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 7 Hydref i ddydd Sadwrn 17 Hydref, gyda pherfformiad wedi'i gyfieithu i BSL ddydd Mawrth 13 Hydref. Tocynnau o £18. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.