Hanes cwpl cyfrwys sydd wedi penderfynu cipio grym ar unrhyw gost

Mae dau o artistiaid mwyaf rhyfeddol ac ysblennydd byd yr opera yn dychwelyd i The Met: Live in HD ar gyfer dehongliad cyffrous Verdi o stori anfarwol Shakespeare am y cwpl cyfrwys sydd wedi penderfynu cipio grym ar unrhyw gost – a bydd modd ei gweld ar sgrin Theatr Torch fis Hydref hwn.

Yn dilyn llwyddiannau blaenorol mewn nifer o brif rannau bariton Verdi, mae Quinn Kelsey o Hawaii yn ymddangos fel y brenin o’r Alban sy’n cael ei aflonyddu gan ysbrydion y llofruddiaethau a ddefnyddiodd i gyrraedd yr orsedd. Yn ei ymyl mae Lise Davidsen o Norwy – y soprano ddramatig flaenllaw yn y byd ar hyn o bryd – yn chwarae rhan Lady Macbeth, sydd wedi’i meddiannu gan awydd am rym, ac mae ei huchelgais ddinistriol yn arwain at gwymp y ddau. Chwaraeodd Lise ran Lady Macbeth hefyd yn y cynhyrchiad Macbeth: Diamond Jubilee – 60 Years at Lincoln Center eleni.

Cyfarwyddwr Cerdd y Met, Yannick Nézet-Séguin, sy’n arwain y gerddorfa ar gyfer y cynhyrchiad treiddgar hwn gan Louisa Proske, cyfarwyddwraig ifanc ddisglair sy’n gwneud enw mawr iddi ei hun ledled y byd. Yn cwblhau’r cast o sêr mae’r tenor o Lundain, Freddie De Tommaso, fel yr arwr Macduff, a’r bas-bariton Ryan Speedo Green o Virginia fel Banquo – ffrind i Macbeth sy’n dod yn un o’i ddioddefwyr yn y pen draw. Gwnaeth Ryan ei ymddangosiad cyntaf yn y Met fel y Mandarin yn Turandot yn 2012. Chwaraeodd ran Klingsor yn Parsifal hefyd.

Gellir gweld Met Opera: Macbeth ar sgrin y TheatrTorch ddydd Sadwrn 24 Hydref am 6pm. Prisiau tocynnau: £20 | £18 consesiynau | £9 i'r rhai dan 26 oed. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.