Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn Ysbrydoli Gwaith Cerfiwr Pren o Sir Benfro
Bydd arddangosfa unigol yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch fis Mai, o'r enw Through a Kaleidoscope, yn gweld preswylydd Stackpole, Anthony Griffiths, yn arddangos ei gyfres o gerfiadau crwn mewn cerfwedd, mewn derw a'u lluniadau cysylltiedig. Yn athro dosbarthiadau cerfio pren o'i gartref yn ne Sir Benfro, mae Anthony yn edrych ymlaen at ddod â'i waith o'i 'Ystafell Gerfio' i lygaid y cyhoedd.
Mae'r tiwtor Anthony Griffiths, sydd wedi bod yn dysgu cerfio pren ers dros 20 mlynedd yng Ngwlad yr Haf, ond sydd bellach yn byw yn yr ardal, wedi datblygu gweithdy newydd ac mae am barhau i ddysgu'r sgil draddodiadol hon.
"Nid yw'r cerfiadau hyn yn ymwneud a thebygrwydd i, na dynwared, unrhyw beth penodol. Gall y cerfiadau fod yn debyg i lawer o bethau, awgrymodd rhywun eu bod yn debyg i batrymau clymog doilies crosio neu'n debyg i fisgedi. Gallant hefyd fod yn debyg i ffufiau mewnol blodau ac er bod y pethau hyn yn debyg, nid yw dim o hyn yn fwriadol," meddai Anthony.
Mae gan y gwaith lawer o ddylanwadau gweledol o'r creigiau gwaddodol sydd wedi'u herydu'n drwm ar lanw isel ar Broadhaven South i rythm y mowldinau cerfiedig ym mwâu Normanaidd Eglwys Gadeiriol Tyddewi a'r siapiau cydgloi a geir yn y rhwyllwaith cymhleth o ffenestri rhosod yr eglwys gadeiriol. Yn y chwarae o batrymau geometrig syml yn nenfydau bwaog yr eglwys gadeiriol, yn yr unedau bach sy'n ffurfio nenfydau crwn stwco hardd a chywrain Palas yr Alhambra ac yn y patrymau geometrig trawiadol sy'n addurno adeiladau Islamaidd.
Ychwanegodd Anthony: “Bwriad y cerfiadau yw tebygu’r profiad a ysgogwyd gan y dylanwadau uchod yn hytrach na bod yn debyg iddynt. Maent yn cyfeirio at yr egni deinamig a’r cydbwysedd; rydym yn profi o’r uchod, yn fewnol fel chwarae o egni cymaint trwy ein cyrff ag y mae trwy ein llygaid.”
Felly, beth mae'r cerfiadau'n eu portreadu?
“Nid yw’r ffurfiau unigol i fod yn ddiddorol nac yn brydferth, ond maen nhw i fod i wneud rhywbeth. Y bwriad yw creu cyflymder a symudiad trwy eu haliniadau gwahanol, nid yw’n ymwneud â ble maen nhw’n mynd, ond eu bod nhw’n mynd, eu bod nhw mewn llif cyson. Mae’r manylion tyllu tebyg i sêr fflamllyd sy’n pelydru o ganol y prif ffurfiau, yno i fywiogi’r cyfansoddiad gyda ffrwydradau byr o egni, fel cynyddu’r tempo mewn darn o gerddoriaeth ac nid ydyn nhw i fod yn fanylion hyfryd,” eglurodd Anthony.
“Yn wahanol i’r rhan fwyaf o gerfiadau cerfwedd sy’n debyg iawn i’w lluniadau gwreiddiol, nid yw’r grŵp hwn o gerfiadau yn edrych fel y lluniadau y maent yn seiliedig arnynt, er eu bod wedi’u gwneud o’r un elfennau sy’n cael eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r pren. Mae’r hyn a gynrychiolir yn y lluniadau yn gwbl wahanol i’r hyn a gyflwynir yn y cerfiadau.”
Wrth gloi, mae Anthony yn dweud na ellir rhagweld ymddangosiad terfynol y cerfiad yn y llun a dim ond trwy'r broses araf o gerfio y mae'n dod allan, sy’n creu gwahanol harmonïau ym mhatrymau golau, cysgod a symudiad o fewn y cerfiad ei hun.
Gellir gweld Throguh a Kaleidoscope yn Oriel Joanna Field, Theatr Torch o ddydd Mercher 6 Mai i ddydd Iau 30 Mai. Am ragor o wybodaeth am yr arddangoswr a'i waith, ewch i www.thecarvingroom.com / torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.