PORTHLADD ABERDAUGLEDDAU A THEATR Y TORCH MEWN PARTNERIAETH NEWYDD

Mae Porthladd Aberdaugleddau a Theatr y Torch wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth dwy flynedd i gefnogi’r gwaith o gyflawni nodau busnes a chymdeithasol uchelgeisiol y ddau sefydliad ar gyfer Sir Benfro.

Bydd y bartneriaeth yn sicrhau bod Theatr y Torch yn gallu parhau â’i gweithgareddau pwysig yn y gymuned – yn benodol y Theatr Ieuenctid, ac Ysgolion Haf eleni ym mis Awst – ‘Tall Tales’ (7 i 11 oed) a ‘Hear Us Roar’ (11 - 18 oed) yn ogystal â chefnogi ysgolion lleol i gyflwyno Celfyddydau Mynegiannol o fewn y Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mae'r cytundeb nawdd hefyd yn cynnwys dau ddangosiad Sinema Machlud Haul yng Nglannau Aberdaugleddau.

Meddai Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig y Torch: “Rydym yn falch iawn o gael y cytundeb hwn yn ei le gyda Phorthladd Aberdaugleddau i weithio o fewn ein cymunedau gan rannu profiadau diwylliannol, codi dyheadau a dod â chymunedau ynghyd. Rydym yn gymdogion ac rydym yn rhannu’r un dyheadau a gwerthoedd o ran ymgysylltu â’n cymuned, boed hynny’n unigolion, grwpiau neu’r gymuned gyfan. Mae sicrwydd ariannol yn bwysig iawn i'r Torch. Rydym yn elusen ac yn fusnes nid er elw a daw hyn mewn cyfnod pan fod arian wedi’i dorri ond pan nad yw’r angen i ymgysylltu â’n gweithgareddau yn y Torch erioed wedi bod yn fwy angenrheidiol.”

Mae Tom Sawyer, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau wrth ei fodd i fod yn bartner gyda Theatr y Torch i sicrhau newid cadarnhaol ar draws cymunedau Sir Benfro. Wrth sôn am y cydweithrediad dwy flynedd newydd, meddai:

“Fel sefydliad sydd wedi ymgolli’n ddwfn yn ein cymuned, rydym yn buddsoddi i sicrhau twf cynaliadwy a chynhwysol yn y porthladd ac o’i amgylch. Ffocyswn yn benodol ar gynorthwyo i greu cymuned wydn sydd ag economi iach, sy’n darparu gyrfaoedd gwerth chweil, ac sy’n ddiwylliannol gyfoethog. Mae gwaith y mae Theatr y Torch yn ei wneud, yn enwedig gyda phobl ifanc, yn ganolog i hynny.

“Rydym yn ffodus i gael theatr broffesiynol a chanolfan gelfyddydol ar garreg ein drws, gan ychwanegu at fywiogrwydd diwylliannol Aberdaugleddau, ac ar adeg pan mae theatrau’n cau, rydym yn falch iawn o ddarparu cymorth ariannol fel y gallant barhau i gynnig gweithgareddau creadigol, annog cyfranogiad yn y celfyddydau, a chefnogi cannoedd o bobl ifanc i gyflawni eu potensial, ni waeth beth yw eu cefndir.”

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.