Sioe swrealaidd, episodig am iechyd meddwl, hunaniaeth ac adferiad.

Mae Period Drama gan Olga Kaleta (gydag Iaith Arwyddion Prydain integredig gan Sherrie Eugene Hart) yn sioe swrealaidd, episodig am iechyd meddwl, hunaniaeth ac adferiad. Mae'n cymysgu adrodd straeon hunangofiannol â syrcas a chorfforoldeb beiddgar a gellir ei gweld yma ar lwyfan Theatr Torch, ddydd Sadwrn 2 Awst.

Yn ymchwilio’n ddwfn i gwestiwn llesiant drwy lens ffeministaidd, drwy ffilmiau sarhaus, nicers gwaedlyd a phenblethau dirfodol pryfed, mae’r ddrama’n drafodaeth agored o rywioldeb ac iechyd meddwl gan ddefnyddio iaith gref. Wedi’i chyd-gyfarwyddo gan Laura Murphy a Nicole A’Court-Stuart, mae’n cyfuno hiwmor tywyll a chomedi corfforol. Mae’r perfformiad yn deimladwy, yn brydferth ac yn herio syniadau sy’n gwneud i ni chwerthin yn uchel am bwy ydym ni a’r hyn y bwriedir i ni fod.

Yn addas ar gyfer y rhai 16+ oed, mae thema’r brif gerddoriaeth wedi'i chyfansoddi gan Ashley John Long, wedi'i chynhyrchu gan Nicole A'Court-Stuart a Thea Woodrow a'r dyluniad set gan Lauren Dix. Mae'n gomisiwn Celfyddydau Handstand ar gyfer Rhaglen Respond Circus City ac wedi'i greu gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr a'r rhai sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol, yn dilyn yr Ymchwil a Datblygu cychwynnol a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Gellir gweld Period Drama yn Theatr Torch ddydd Sadwrn 2 Awst am 7.30pm. Tocynnau £16 llawn / £14 i D24. I archebu tocynnau ewch i'r wefan torchtheatre.co.uk  / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.