Sioe Hyfryd ar Gyfer y Teulu Cyfan

Mae Bertie’r Wenynen ar waelod pentwr cwch gwenyn prysur, yn treulio ei ddiwrnod yn peillio hen afalau diflas pan fyddai'n well ganddo fod yn rhydd i beillio blodau gwyllt mewn gwirionedd. Mewn eiliad o wrthryfel mae'n gadael y cwch gwenyn, dim ond i roi'r holl gytref a'i ffrind gorau mewn perygl. Nawr mae'n rhaid i Bertie fod yn ddewr. A fydd yn llwyddo ac yn achub ei ffrindiau?

Bydd Gwarchod y Gwenyn, yn Theatr Torch fis Gorffennaf eleni, yn cyflwyno plant i faterion pwysig gan gynnwys colli bioamrywiaeth a'r argyfwng hinsawdd. Perffaith ar gyfer plant 4+ oed a'u teuluoedd.

Cafodd Anwen o'r Tîm Marchnata sgwrs gyda Phyl Harries, y Cyfarwyddwr, i ddarganfod pam mae'r sioe deuluol hyfryd hon yn ‘suo’ ...

Dyweda ychydig wrthym am y sioe a'r hyn y gall cynulleidfaoedd ei ddisgwyl.

Mae'r sioe yn adrodd hanes Berti, gwenynen drôn sy'n breuddwydio am fod yn rhydd i beillio blodau gwyllt. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl antur gerddorol, lliwgar yn llawn pob math o gymeriadau a digon o gyfleoedd i gynulleidfaoedd ymuno â'r hwyl.

Disgrifia’r sioe mewn tri gair.

Lliwgar, doniol, anturiaethus

Oes gan y sioe neges bwysig?

Prif neges y sioe yw pwysigrwydd amddiffyn ein planed a pham mae angen gwenyn arnom. Yn ogystal â'r neges amgylcheddol, gwelwn y gwenyn yn dysgu sut i weithio gyda'i gilydd a phwysigrwydd ffrindiau yn cefnogi ei gilydd – gyda'n gilydd yn gryfach!

Beth yw dy hoff ran o'r sioe a pham?

Mae’n rhaid i mi ddweud Dawns y Wagl – gall pawb ymuno a chael bwgi gyda’r gwenyn!

Dyweda ychydig wrthym am y cymeriadau.

Mae Berti yn wenynen drôn ddireidus sy'n breuddwydio am beillio blodau gwyllt a gadael ei gwch gwenyn diflas. Drwy gydol y sioe, mae'n dysgu rhywbeth gan bob cymeriad y mae'n cwrdd ag ef ar ei daith, sydd yn y pen draw yn ei helpu i fod yn wenynen well.

Mae Bron yn wenynen weithgar sy'n garedig ac yn hunan-esgeulus. Hi yw ffrind gorau Berti ac mae hi bob amser yn ceisio ei helpu i wneud y peth iawn.

Sgt Major Beelko yw ‘right hand bee’ y Frenhines. Mae'n un gweithgar sy'n gwasanaethu'r cwch gwenyn ac yn byw yn ôl y rheolau - ei ffordd ef neu'r briffordd ydyw!

Mae Bertie a Bron yn cwrdd â llawer o gymeriadau eraill yn ystod eu hantur, ond bydd yn rhaid i chi ddod i weld y sioe i gwrdd â nhw i gyd!

Pam dewis gwneud sioe ar wenyn?

Daeth y sioe i fodolaeth yn wreiddiol yn ôl yn y 2010au cynnar oherwydd trafferthion y gwenyn ar y pryd oherwydd gwiddon varroa angheuol. Tynnodd y broblem hon sylw at ba mor hanfodol yw gwenyn i fywyd; heb wenyn a pheillwyr eraill, ni fyddai gennym fwyd! Nawr, bron i 15 mlynedd yn ddiweddarach, newid hinsawdd yw'r hyn sy'n effeithio ar y gwenyn. Mae blodau'n blodeuo'n rhy gynnar yn y tymor cyn i wenyn ddod allan o aeafgysgu, sy'n creu anghydweddiad yn y tymhorau. Felly, er bod y bygythiad i wenyn wedi esblygu, mae'n parhau i fod yr un mor bwysig i dynnu sylw at yr hyn y gallwn ei wneud i'w hamddiffyn.

Sut beth yw cyfarwyddo sioe mor wych a fydd yn cadw cynulleidfaoedd i “suo”?

Mae'n swydd ddelfrydoli mi. Ar ôl cyfarwyddo'r sioe o'r blaen, rwyf wrth fy modd yn cael ail-ddychmygu’r cynhyrchiad gyda chast newydd. Mae wedi bod yn hwyl ail edrych ar y sgript a meddwl am syniadau newydd gyda'r tîm gwych.

Gwell na'r tro y cefais fy mhigo gan wenynen… do, fe dalais £6.50 am jar o fêl!

Pam ddylai pobl ddod i weld y sioe?

Dylai teuluoedd ddod i’w gweld oherwydd ei bod hi'n ddoniol ac yn ingol. Mae'n llawn cerddoriaeth a chyfranogiad y gynulleidfa, ac mae popeth y gallai rhywun ei eisiau mewn sioe yno. Mae'r gwisgoedd yn lliwgar, mae'r cymeriadau'n llawn personoliaeth, ac rydych chi'n cael gweld pili pala adonis glas sy'n meddwl ei fodyn Elvis – beth arall allech chi ei moyn?

Gellir gweld Gwarchod y Gwenyn ar lwyfan Theatr Torch ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf am 11am a 2pm. Noder y bydd y sioe am 11am yn cael ei pherfformio yn Gymraeg, a'r sioe am 2pm yn cael ei pherfformio yn Saesneg. Pris: £10. Archebwch docynnau drwy'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.