Mae Puss Wedi Colli ei Bŵts Pinc!

Bydd Sioe Sir Benfro, a gynhelir dros ddau ddiwrnod yn ddiweddarach y mis hwn, yn gweld lansio cystadleuaeth pantomeim Nadolig Theatr Torch – ‘Mae Puss wedi Colli ei Bŵts Pinc’ a byddan nhw’n disgleirio arnoch chi ar faes y sioe. Bydd y bŵts yn cuddio yn rhywle o amgylch y sioe a gwahoddir ymwelwyr i ddod o hyd iddyn nhw a’u dychwelyd i stondin Theatr Torch er mwyn ennill tocyn teulu i’r pantomeim – Puss in Boots (gyda thema’r Gorllewin Gwyllt)!

Mae tocynnau ar gyfer y pantomeim eisoes yn hedfan allan o'r Swyddfa Docynnau, a byddwn yn gweld hoff foneddiges Sir Benfro, Lloyd Grayshon, yn dychwelyd i lwyfan y Torch fis Rhagfyr. Yn llawn egni a bywiogrwydd gyda sbarc yn ei lygad, mae Lloyd, yr actor lleol poblogaidd iawn, wedi mwynhau chwarae sawl cymeriad dros y blynyddoedd ym mhantomeimiau Nadolig Theatr Torch gan gynnwys Titania Trott yn Jack and the Beanstalk a Dame Belinda Beehive yn Rapunzel.

“Mae hon yn gystadleuaeth wych a bydd yr enillydd lwcus yn ennill tocyn teulu i weld Puss in Boots. Dewch am antur Nadoligaidd yn llawn comedi a fydd yn eich annog i chwerthin yn uchel, cewch weld wisgoedd ysblennydd, clywed caneuon sy’n eich cyffroi a bydd yr holl gyfranogiad gan y gynulleidfa fel yr arfer. Puss in Boots yw pantomeim Nadolig newydd sbon Theatr Torch – mae’n berffaith ar gyfer y teulu cyfan,” meddai Anwen Francis o Dîm Marchnata’r Torch, sydd i’w chael yn ystod y sioe ddeuddydd yn Stondin A18 yng nghwmni’r foneddiges ddoniol.

Ond nid dyna ddiwedd yr hwyl a’r cyffro. Bydd y bŵts pinc yn cael eu cuddio yn rhywle yn Sir Benfro bob wythnos o fis Medi ymlaen ac mae Theatr Torch yn gofyn am eich help i ddod o hyd iddyn nhw. Bydd yr unigolyn/unigolion sy’n dychwelyd y bŵts i’r Torch yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill tocyn teulu ar gyfer y pantomeim! Pam oedi? Cadwch lygad ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol Theatr Torch am ragor o wybodaeth.

Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau trwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.