Ieuenctid y Torch ar Darged am Lwyddiant Ysgubol

Fis Gorffennaf eleni bydd Theatr Torch yn atseinio gyda sain Robin Hood: The Legend of the Black Knight. Bydd y fersiwn newydd sbon hon o'r stori glasurol yn cynnwys dros 50 o actorion ifanc o Theatr Ieuenctid y Torch a fydd yn dod â thair noson o anturiaethau cyffrous i chi.

“Bydd holl elfennau’r stori rydyn ni’n eu hadnabod ac yn eu caru yno. Mae Robin Hood yn dwyn oddi wrth y cyfoethog ac yn rhoi i’r tlodion, mae Siryf Nottingham yn gwneud dim byd da, a’r Forwyn Marian yw’r union arwres egnïol sydd ei hangen arnom ni i gyd,” meddai Tim Howe, Cyfarwyddwr y cynhyrchiad.

Parhaodd “Ond ni fyddai’n gynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch heb rai pethau annisgwyl, ac allwn ni ddim ag aros rhannu’r syrpreisys hynny gyda chi.”

Mae Robin Hood: The Legend of the Black Knight yn dilyn y Sycamore Gap a dorrodd record ac yn nodi elfen nesaf blwyddyn lawn o weithgarwch i bobl ifanc yn y Torch.

“Rydym yn darparu sesiynau wythnosol yn ystod tymor yr ysgol i bobl ifanc rhwng 7 a 18 oed, ac mae pob un ohonynt yn gallu cymryd rhan yn y cynhyrchiad haf – nid oes clyweliadau – ac mae archebu ar agor nawr,” eglurodd Tim.

“Rydym hefyd yn cynnig gweithgarwch yn yr haf pan all pobl ifanc ymuno â ni am wythnos lawn o weithdai ac ymarferion i greu cynhyrchiad a rennir yn ein stiwdio ar gyfer eu teuluoedd a’u ffrindiau. Felly mae yna lawer o ffyrdd i ymuno â ni."

Mae sesiynau a chynhyrchiadau Theatr Ieuenctid y Torch yn ceisio datblygu nid yn unig sgiliau theatrig y bobl ifanc ond hefyd darparu lle ble gallant ddarganfod eu llais, yn ogystal â dysgu rhagor amdanynt eu hunain a'i gilydd.

Gellir gweld Robin Hood ar lwyfan Theatr Torch ddydd Llun 20 Gorffennaf, dydd Mawrth 21 Gorffennaf a dydd Mercher 22 Gorffennaf am 6.30pm. Pris: £10 / £8 consesiynau. Archebwch docynnau drwy wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.

 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.