Samuel Freeman sy'n esbonio pa mor 'gath-tastig' yw pantomeim y Torch eleni

Bydd Samuel Freeman o Aberdaugleddau yn chwarae rhan y 'Sharp Shootin’ Sheriff Steele' – cymeriad sy'n unigryw i Theatr Torch – ym mhantomeim yr ŵyl eleni, Puss in Boots. Mae'n annog unrhyw un sy'n chwilio am noson berffaith allan adeg y Nadolig i ddod i weld y pantomeim hwn.

“Ymunwch â ni ar gyfer Puss in Boots. Trysor gorllewinol wirioneddol wych, doniol a thrawiadol mewn fersiwn o'r sioe nas gwelwyd erioed o'r blaen!,” meddai Samuel wrth iddo egluro pa mor ‘gath-tastig yw'r panto mewn gwirionedd. Darllenwch Sesiwn Holi ac Ateb Samuel isod.

Dyweda ychydig wrthym am dy gymeriad yn Puss in Boots a beth rwyt ti’n ei wneud.                                                                                    

Mae'r Siryf Steele yn bennaeth hynod bigog yma yn Aberdaugleddau. Mae wir yn credu bod yr holl rym yn ei ddwylo, a bydd yn gwneud unrhyw beth i'w gadw. Yn ogystal â rhoi trefn ar y dref a sicrhau ei bod yn parhau i fod yn lle parchus, dyw e ddim am weld unrhyw ddieithriaid – na CHATHOD chwaith! Os ydych chi'n bwriadu ei wawdio, cofiwch ei fod e'n caru hynny!

Disgrifia dy gymeriad mewn pum gair.

Gosgeiddig, Pigog, Disgyblwr, Gormeswr Ofnadwy

Dyweda wrthym beth yw dy farn am ymddangos ar lwyfan Theatr Torch, a beth mae hyn yn ei olygu i chi. Wyt ti wedi cael rhan mewn pantomeim yn y Torch o'r blaen – os felly, pryd, a pha rôlau wnes di eu chwarae?

Dychwelyd i'r pantomeim yn y Torch yw uchafbwynt y flwyddyn bob amser. Mae bob amser wedi bod yn rhan mor fawr o fy ngyrfa, a dyma fy seithfed cynhyrchiad yma! Mae wedi bod yn nifer o bantomeimiau, yn ogystal ag Of Mice and Men a The Turn of the Screw.

Pa mor bwysig yw cyfranogiad y gynulleidfa i ti?

Mae theatr yn gyfrwng byw, ac mae gwahodd y gynulleidfa i mewn yn golygu y gall unrhyw beth ddigwydd... sy'n hynod gyffrous!

O ran y pantomeim, beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf?

Yr holl ganeuon gwych gan James Williams, a digon o chwerthin ar gyfer pobl Sir Benfro!

 

Sut byddi di’n mynd ati i ddysgu dy linellau?

Dychwelyd i'r pantomeim yn y Torch yw uchafbwynt y flwyddyn bob amser. Mae bob amser wedi bod yn rhan mor fawr o fy ngyrfa, a dyma fy seithfed cynhyrchiad yma! Mae wedi bod yn nifer o bantomeimiau, yn ogystal â Of Mice and Men a The Turn of the Screw.

Sut wyt ti’n mynd ati i ymgorffori dy gymeriad?

Mae bob amser yn helpu i gael ffocws ysbrydoledig. Efallai anifail, neu gymeriad o'r cyfryngau neu fywyd cyhoeddus. Dod o hyd i ystum a phresenoldeb corfforol. Ond hefyd arbrofi yn yr ystafell ymarfer gyda'r perfformwyr gwych eraill, a gweld i ba le rydych chi'n ffitio.

Sut wyt ti’n ymdopi â chymeriadau eraill yn byrfyfyrio (os ydyn nhw'n gwneud hynny!), a sut wyt ti’n dychwelyd i'r trywydd iawn?

Mae'n anrheg! Ac mae'n ei gadw'n fyw. Mae ffraethineb a byrfyfyr yn elfennau mor bwysig o banto. A gobeithiwn hefyd fod pethau'n mynd o'i le weithiau...

Beth yw'r prif heriau o gymryd rhan mewn pantomeim?

Mae'r adeg hon o'r flwyddyn bob amser yn brysur iawn. Mwy nag unwaith rydw i wedi bod yn gwneud siopa munud olaf wrth wisgo colur llawn! Ond y Nadolig hefyd yw'r hyn sy'n gwneud gweithio yn y theatr mor arbennig.

Gan fod y pantomeim yn mynd â ni dros gyfnod y Nadolig, beth fyddi di’n ei fwyta ar Ddydd Nadolig?

Mae corn melys wedi bod yn rhan o fy swper rhost erioed – rhywbeth rydw i wedi clywed sy'n achosi llawer o ddadlau. Ond fyddwch chi byth yn gallu ei gymryd oddi arna i – mwahahaha!

Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr hyd ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad mewn Amgylchedd Ymlaciol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad gyda dehongliad BSL: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau drwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.