Ymunwch â FooFoo LaBelle yn Theatr Torch

Showgirls & Sharks: Hunangofiant cerddorol gwallgof a fydd yn ymweld â llwyfan Theatr Torch fis Mehefin! Stori wir am sut y rhedodd merch ifanc i ffwrdd gyda'r syrcas a dod yn ddawnswraig Bwrlesg enwog o Gymru.

Mae Showgirls and Sharks yn dilyn y ddawnswraig ddi-ofn "FooFoo LaBelle" trwy adrodd hanes ei bywyd ar ffurf sioe gerdd anhygoel. Gyda chyfeiliant y Maestro cerddorol Jenna Dyckhoff, mae'r ddeuawd yn datgelu cyfrinachau’r ddawnswraig a deithiodd o amgylch y byd gyda chaneuon a dawnsio.



Bydd y daith am enwogrwydd hon yn gwneud i chi chwerthin, yn cyffwrdd â’ch emosiynau ac, ar adegau, yn torri’ch calon. Cewch weld taith o hunan-ddarganfod sy'n rhychwantu pum degawd a thri chyfandir. Byddwch chi’n cwrdd â dawnswyr bale, eliffantod syrcas, siarcod sy’n perfformio a chathod pantomeim yn ystod y noson unigryw hon o adrodd straeon, caneuon a chabaret. 

Antur gerddorol sy’n datgelu stori wir am oroesi bywyd fel menyw, y byd adloniant a phopeth sydd gan y byd i'w gynnig cyn dod o hyd i’r llawenydd sy’n gysylltiedig â chartref. Stori anhygoel a fydd yn eich gwneud i chi gydganu, chwerthin yn uchel a sychu’ch dagrau wrth i chi ddarganfod bod dawnswragedd yn union debyg i win cain neu gaws drewllyd: maen nhw'n gwella gydag oed!

Gellir gweld Showgirls & Sharks ar lwyfan Theatr Torch nos Wener 5 Mehefin am 7.30pm. Pris: £14. Archebwch docynnau oddi ar y wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.