Cludo cynulleidfaoedd o bob oed i fyd o gyflymder, canu ac adrodd straeon

Bydd cefnogwyr Starlight Express gan Andrew Lloyd Webber wrth eu bodd yn clywed y gallant weld y sioe gerdd boblogaidd ar sgrin Theatr Torch fis Rhagfyr hwn. Wedi’i ffilmio’n fyw yn y Starlight Auditorium – a ddyluniwyd yn arbennig at y diben – yn Theatr Troubadour Wembley Park, bydd y sioe yn cludo’r gynulleidfa i fyd o gyflymder, canu a hadrodd straeon.

Bydd cast anhygoel o 40 o berfformwyr yn chwipio ar draws y sgrin, ac yn canu rhai o ganeuon mwyaf annwyl theatr gerdd. Wrth i set drenau plentyn ddod yn fyw yn hudolus a’r locomotifau rasio i fod y cyflymaf yn y byd, nid oes llawer o obaith i Rusty, y trên stêm, ennill – nes iddo gael ei ysbrydoli gan chwedl ‘Starlight Express.’

Yn sioe a welwyd ledled y byd gan dros 30 miliwn o bobl, gyda cherddoriaeth gan Andrew Lloyd Webber a geiriau gan Richard Stilgoe – mae STARLIGHT EXPRESS ANDREW LLOYD WEBBER – YN FYW AR Y LLWYFAN yn brofiad cyffrous dros ben i bob oedran.

Bydd y digwyddiad theatrig hwn, llawn egni ar ffilm, yn cludo cynulleidfaoedd o bob oed i fyd o gyflymder, canu ac adrodd straeon. Wedi’i ffilmio yn ystod adfywiad llwyddiannus y sioe gerdd yn 2024 – a gynhyrchwyd gan Michael Harrison ar gyfer Lloyd Webber Harrison Musicals – mae’r ffenomen fyd-eang hon yn gwahodd cynulleidfaoedd ym mhobman i annog Rusty y Trên Stêm tuag at fuddugoliaeth.

Gellir gweld Starlight Express ar sgrin y Torch Theatre ddydd Iau, 3 Rhagfyr, am 7pm. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.