Cyhoeddi Rhestr o Ffilmiau a Lleoliadau Sinema Machlud Haul Theatr Torch!

Cadeiriau cynfas yn barod? Blancedi fflwffog wedi'u plygu a phicnicau wedi'u paratoi? Mae tymor Sinema Machlud Haul ar fim dechrau ac mae'r ffilmiau a'r lleoliadau wedi'u cyhoeddi. O Gei Macrell yn Aberdaugleddau i'r Harbwr yn Llanusyllt a Pharc Slebech i Gastell Penfro, mae lleoliadau godidog ar garreg eich drws er mwyn cael profiad sgrin fawr arbennig.

 

Mae Theatr Torch yn gweithio gyda Pure West Radio fel Partner Cyfryngau, i fynd allan ac o gwmpas gyda sgrin LED fawr i sicrhau llun clir grisial, boed law neu hindda. Mae'r teitlau'n cynnwys Mamma Mia, How to Train your Dragon, Shakespeare’s Romeo + Juliet, Jaws, Back to the Future, Shark Tale, Jurassic World a The Greatest Showman. Mae cychwyn tymor Sinema Machlud Haul yng Nghei Macrell yn gyfres ddwbl o glasuron Finding Nemo a ddilynir gan Back to the Future ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf. Am y tro cyntaf i Sinema Machlud Haul, bydd hyd yn oed dangosiad cyntaf o ffilm newydd gan Emily Batty, gwneuthurwr ffilmiau lleol, a ffilmiwyd o amgylch Llanusyllt – Near and Distant Thing - beth sydd ddim i'w hoffi?

Mae tocynnau ar gyfer pob dangosiad ar werth nawr, defnyddiwch y cod SUNSET2026 i gael eich tocynnau am ddim ond £10, yn ddilys tan 10pm y dydd Sadwrn hwn (13 Mehefin). Ar ôl 10pm ddydd Sadwrn bydd tocynnau'n £12 ymlaen llaw, neu grŵp o 4 tocyn yn £44 ymlaen llaw a £14 yr un wrth y drws.

 

Gwener 17 Gorffennaf

Cei Macrell, PoMH

                  FINDING NEMO

2.30PM

   

BACK TO THE FUTURE

7PM

Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf

Yr Harbwr Llanusyllt,

Emily Batty: Near and Distant Things

7pm

Dydd Gwener 7 Awst

Parc Slebech

MAMMA MIA

7pm

Dydd Sadwrn 8 Awst

Yr Harbwr, Llanusyllt

SHARK TALE

2.30pm

 

Yr Harbwr, Llanusyllt

JAWS

7pm

Dydd Sadwrn 15 Awst

Tŵr Y Felin, Tyddewi

JURASSIC WORLD (2015)

7pm

Dydd Gwener 21 Awst

MHPA

THE GREATEST SHOWMAN

7pm

Dydd Gwener 28 Awst

Castell Penfro

How To Train Your Dragon

2.30PM

Dydd Sadwrn 29 Awst

Castell Penfro

Romeo & Juliet gan Shakespeare

7pm

Cynhelir Sinema Machlud Haul Theatr Torch, gyda’r Partner Cyfryngau Pure West Radio, o ddydd Gwener 17 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 29 Awst. Archebwch docynnau drwy’r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.