Sioe sy'n eich cludo ar daith gerddorol trwy ddegawdau swing

Galwch heibio i Theatr Torch fis Awst eleni am daith gerddorol drwy ddegawdau o gerddoriaeth swing a bandiau mawr eiconig wrth i SOS Big Band – The Story of Swing ddod i Aberdaugleddau. Wedi'i gyflwyno gan y lleisydd arobryn a'r trwmpedwr o'r radd flaenaf,Gareth John, ac yn cynnwys Band Mawr syfrdanol SOS, mae'r sioe yn mynd â chi ar daith gerddorol trwy ddegawdau o'r genre eiconig swing.

Yn cynnwys caneuon clasurol, poblogaidd iawn gan Bobby Darin, Frank Sinatra, Dean Martin a Sammy Davis Jr, hyd at gantorion modern fel Michael Buble, Robbie Williams, Matt Goss, Paul Anka a Harry Connick Jr, gall cynulleidfaoedd ddisgwyl noson dda!

Mae Gareth yn enwog am ei ddawn mewn perfformio mewn sioe o’r radd flaenaf, ac yn perfformio o’r galon gyda brwdfrydedd mawr iawn dros y genre. Mae ei bresenoldeb llwyfan a’i berthynas naturiol â’r gynulleidfa yn ddiguro. Nid yw’n syndod, oherwydd ei fod wedi rhannu’r llwyfan gyda llawer o enwau cyfarwydd, gan gynnwys The Beautiful South, The Specials a llawer mwy.

Mae’r sioe wedi derbyn adolygiadau gwych wrth iddi deithio’r wlad gydag aelod o gynulleidfa Theatr Core yn Solihull yn dweud: “Roedd yn sioe wych neithiwr.”

Gellir gweld SOS Big Band – The Story of Swing ar lwyfan Theatr Torch ar nos Sadwrn 1 Awst am 7.30pm. Tocynnau: £28.50. Archebwch docynnau drwy'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.