Dathliad o Gerddoriaeth Clwstwr Aberdaugleddau
Gellir gweld cyngerdd arbennig yn arddangos y cerddorion ifanc talentog o fewn Clwstwr Ysgolion Aberdaugleddau ar lwyfan Theatr Torch fis Gorffennaf eleni. Bydd disgyblion o Ysgolion Coastlands, Gelliswick, Johnston, Neyland, Aberdaugleddau, a Sant Ffransis, ochr yn ochr ag Ysgol Aberdaugleddau, yn perfformio mewn bandiau a chorau. Hefyd yn cymryd rhan bydd Band Chwyth Ysgolion Clwstwr Aberdaugleddau, gan orffen mewn Rownd Derfynol Fawreddog.
Er bod y disgyblion yn perfformio yn eu hysgolion yn rheolaidd, rydym yn gyffrous i ddod â nhw at ei gilydd am y tro cyntaf yn y gymuned ar lwyfan gwych Theatr Torch.
Dywedodd Mr Daryl John, Pennaeth Dros Dro Ysgol Aberdaugleddau:
"Mae perfformio yn Theatr Torch yn gyfle gwych i Ysgolion Clwstwr Aberdaugleddau ddod at ei gilydd a disgleirio mewn amgylchedd theatr broffesiynol."
Ychwanegodd Anwen Francis, o Griw Marchnata Theatr Torch:
“Allwn ni ddim aros i groesawu pobl ifanc yr ysgolion cyfagos i’r Torch. Gyda dau berfformiad – un yn y prynhawn ac un yn gynnar gyda’r nos, mae amser cyfleus i bawb ac rydym yn mawr obeithio y bydd pobl yn dod i gefnogi’r disgyblion brwdfrydig a thalentog yma.”
Gellir gweld Symphony of Schools: A Celebration of Music in the Milford Haven Cluster ar lwyfan Theatr Torch ddydd Mercher 8 Gorffennaf am 2.30pm a 6.30pm. Pris: £5. Archebwch docynnau drwy'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.