Tair Monolog Ddiamser i Godi Arian i Theatr Torch

Fel rhan o ymgyrch ‘Unwaith Eto’ Theatr Torch, lle mae aelodau’r gynulleidfa’n cael eu hannog i ymweld â chynyrchiadau’r Theatr unwaith eto eleni, bydd actorion amatur lleol o Artistic Licence yn cyflwyno Talking Heads gan Alan Bennett fis Hydref hwn. Am ddwy noson y mis yma, bydd tair o fenywod lleol yn camu i'r llwyfan yn perfformio monolog glasurol yr un.

Bydd yr ymsonau bythol, a ddangoswyd gyntaf ar y teledu yn yr 1980au, yn dod yn fyw ar lwyfan Theatr Torch ddydd Iau 17 Hydref a dydd Gwener 18 Hydref. Caiff Her Big Chance ei pherfformio gan Janine Lewis, Margaret Slater Harries fydd yn perfformio A Lady of Letters gyda Carol Mackintosh yn cyflwyno A Cream Cracker Under the Settee.

Mae’r monologau hyn yn bortreadau o dair menyw wahanol iawn – eu ffolineb, diflastod, poen a llawenydd – ond pob un yn rhannu arsylwad meistrolgar Alan Bennett o’r cyflwr dynol.

Bydd yr holl elw o’r perfformiadau hyn yn cael ei roi i Theatr Torch a’i gyflwyno trwy drefniant â Concord Theatricals Ltd.

Bydd Artistic Licence: Talking Heads yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch ar nos Iau 17 Hydref a nos Wener 18 Hydref, y ddwy nosoon i ddechrau am 7.30pm. Pris tocyn: £12. I archebu eich tocynnau neu am fwy o fanylion, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.