Tri Actor Egnïol, Dychymyg Gwallgof a Hwyl Tafod a Boch!

Mae'r syniad o anweledigrwydd, a'r manteision y gallai eu cynnig i rywun, wedi dal dychymyg miliynau ers i stori glasurol H.G. Wells gael ei chyhoeddi gyntaf. Mae stori’r Invisible Man wedi'i haddasu sawl tro ar gyfer ffilm, ond anaml ar gyfer y llwyfan, fis Mai eleni, gall y rheiny sy’n mynd i Theatr Torch ymgolli yn y ffolineb slapstic.

Mae'r addasiad gwreiddiol, cyflym a therfysglyd hwn yn cynnwys 15 cymeriad, a chwaraeir gan ddim ond tri actor egnïol, gyda chymorth newidiadau gwisgoedd cyflym a gwirion, newid propiau, dychymyg rhyfedd a llwyth o hwyl ddigri!

Our Star Theatre Company sy’n cyflwyno’r ail-adrodd theatrig, comig hwn i chi, yn dilyn taith hynod lwyddiannus yn y DU yn 2023 a’u rhediad clodwiw yng Ngŵyl Fringe Caeredin a werthodd bob tocyn.

Ar ôl derbyn adolygiadau gwych, mae’r British Theatre Guide yn disgrifio’r sioe fel un “ar gyflymder uchel drwyddi draw”.

Mae'n ychwanegu: “Mae’r cast bywiog o Daniel Davis, Eleanor Catherine Smart a Sophie Watkins yn haeddu clod am hyder a chynnal cyflymder uchel drwyddi draw. Mae Watkins yn berfformiwr talentog, ac yn denu’r gorau allan o’r darn.”

Gellir gweld The Invisible Man ar lwyfan Theat Torch ar nos Fercher 13 Mai am 7.30pm. Pris: £18. I archebu tocynnau ewch i’r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.