Diolch Arbennig I Chi Oddi Wrth Y Torch
Bydd Theatr Torch, Aberdaugleddau yn dechrau’r Flwyddyn Newydd gyda diolch yn fawr i’w chefnogwyr trwy gynnig tocynnau sinema £5 a chynnig pantomeim cyntaf i’r felin fel rhan o’i Sêl Aeaf flynyddol. Yn dilyn blwyddyn galed i sefydliadau celfyddydol ar draws y wlad mae’r Torch am roi rhywbeth yn ôl i bawb sy’n ymweld trwy wneud y daith i’r Torch yn fwy fforddiadwy i bawb.
Bydd Sêl y Gaeaf yn rhedeg rhwng Ionawr 10 a Mawrth 6 a bydd yn darparu rhywfaint o hwyl ac adloniant y mae mawr ei angen yn ystod y dyddiau oer a gwlyb.
“Eleni rydyn ni wedi gofyn i gynulleidfaoedd gefnogi’r Torch drwy ddod draw Unwaith Eto, ac rydyn ni wedi cael ein syfrdanu gan yr ymateb. Fel diolch, rydym wedi penderfynu cynnal ein Sêl Gaeaf unwaith yn rhagor, a bydd tocynnau sinema ar gael am £5. Byddwch hefyd yn gallu archebu’r seddi gorau am y prisiau gorau ar gyfer Pantomeim Rapunzel y flwyddyn nesaf,” esboniodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch, Chelsey Gillard.
Mae Janine Grayshon, Cydlynydd Rhaglen Artistig Theatr Torch yn gobeithio y bydd llawer yn mynychu’r sinema i weld yr amrywiaeth o ffilmiau sydd ar gael, gan gynnwys y ffilm am fywyd Bob Dylan, A Complete Unknown, Here sef ffilm hyfryd am deulu a’r lle rydym yn byw ac wrth gwrs, Bridget Jones: Mad About the Boy!
“Rydym yn falch iawn o fod yn cynnig tocynnau sinema am bris gostyngol. Mae’r Torch wedi derbyn cymaint o gefnogaeth gan ein cymuned felly pa ffordd well i ddweud diolch na thrwy wneud taith sinema yn fwy fforddiadwy. Gyda rhestr wych o ffilmiau, rwy’n siŵr bod rhywbeth at ddant pawb!” meddai Janine.
Bydd y Torch hefyd yn dangos dwy ffilm fel rhan o Ymgyrch Ymwybyddiaeth Anabledd Cenedlaethol - Unstoppable a The Peanut Butter Falcon cyn dathlu Mis Hanes LHDT+ yn ystod mis Chwefror gyda thair ffilm – Queer, India’s First Best Trans Model Agency a Carol.
Gall cerdyn teyrngarwch sinema Theatr Torch, a gesglir yn y Swyddfa Docynnau, gynnig hyd yn oed mwy o fuddion i’n mynychwyr sinema arferol. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn ymweld nesaf a byddwch yn derbyn cerdyn maint cerdyn credyd a fydd yn cael ei stampio bob tro y byddwch yn dod i wylio ffilm. Ar eich pumed ymweliad fe gewch 2 fag o bopcorn am ddim ac ar eich 10fed ymweliad bydd eich 11eg ymweliad am ddim. Felly, does dim esgus i beidio â dod i weld eich holl ffefrynnau ar y sgrin fawr gydag awyrgylch gwych, a chael diolch gennym ni am fod yn fynychwyr rheolaidd!
Mae dweud diolch yn fawr i'w chefnogwyr wedi dod yn draddodiad yn y Torch, ac nid yw eleni yn eithriad.
Daeth Chelsey i glo: “Yn y Torch rydym wrth ein bodd yn cynnig rhywbeth rhyfeddol i’n cynulleidfaoedd, yn enwedig yn ystod dyddiau tywyll y gaeaf, felly dewch draw, curwch felan y gaeaf a chael bargen i chi’ch hun!
I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.