UDO DRWY'R NOS
Mae’n digwydd heno a bydd pobl yn undo i weld cynhyrchiad hydrefol Cwmni Theatr Torch, The Hound of the Baskervilles ar y llwyfan. Yn yr addasiad hynod hwyliog hwn gan Steven Canny a John Nicholson – sy'n addas i'r teulu cyfan – bydd tri actor hynod dalentog yn gwneud i'r gynulleidfa udo chwerthin drwy gydol y nos.
Bydd y cynhyrchiad, sy'n cynnwys yr actor gwobrwyedig Gareth John Bale, yr actores o Sir Benfro Jess Dyas, a Rick Yale – wyneb newydd yn y Torch – yn cael ei lwyfannu am gyfnod cyfyngedig ddechrau Hydref.
Mae'r Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard, yn gobeithio nad yw hi wedi mynd yn hollol wallgof wrth i anhrefn, cliwiau ac anturiaethau cydgyfarfod yn y fersiwn hynod ddoniol a chyflym hon o'r stori glasurol.
“Mae Sherlock Holmes yn un o’r cymeriadau mwyaf eiconig a grewyd erioed, ac mae’n ymddangos bod pob cenhedlaeth yn ei ddarganfod o’r newydd. O Basil Rathbone a Jeremy Brett i Benedict Cumberbatch a Henry Cavill, nid yw cynulleidfaoedd byth yn blino ar ddirgelwch gwych yn ymwneud â Holmes. Gellid dadlau mai The Hound of the Baskervilles yw antur enwocaf Conan Doyle. Mae ynddo bopeth y gallech ei ddymuno o noson yn y theatr: dirgelwch cyfareddol, cymeriadau cofiadwy, digonedd o densiwn ac, yn y fersiwn hon sydd wedi’i chreu gyda dyfeisgarwch gwych, llawer iawn o chwerthin,” eglurodd Chelsey.
Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl fersiwn o The Hound of the Baskervilles sy'n wahanol i unrhyw fersiwn a welwyd o'r blaen. Mae'r fersiwn hon yn cadw holl ddirgelwch, tensiwn ac awyrgylch stori wreiddiol Conan Doyle, ond yn eu cyfuno â chomedi finiog, adrodd straeon cyflym a dyfeisgarwch theatrig syfrdanol.
Ychwanegodd Chelsey: “Un funud byddwch ar bigau'r drain wrth geisio datrys y dirgelwch, a'r nesaf byddwch yn chwerthin nes eich bod yn wylo. Mae'n sioe sy'n llawn syndod a newidiadau cyflym i gymeriadau. P'un a ydych chi'n ffan brwd o Sherlock Holmes neu'n chwilio am noson wych allan, mae rhywbeth yma i bawb.”
Yn dilyn marwolaeth ddirgel Sir Charles Baskerville, gofynnir i Sherlock Holmes ymchwilio i sïon am felltith frawychus sydd wedi poeni’r teulu Baskervilles ers cenedlaethau. Mae Holmes yn anfon Dr Watson i rostir anghysbell Dartmoor i amddiffyn yr etifedd newydd, Sir Henry Baskerville, ac i ddarganfod y gwirionedd y tu ôl i gyfres o ddigwyddiadau rhyfedd ac annifyr. Wrth i Watson ymchwilio'n ddyfnach, daw ar draws cymdogion amheus, cyfrinachau cudd a pherygl cynyddol, gan godi'r cwestiwn: a oes ci goruwchnaturiol wir yn crwydro'r rhostir, neu a oes rhywbeth hyd yn oed mwy sinistr ar waith? Datgelir popeth yn yn Theatr Torch o 7 Hydref ymlaen.
Wrth gloi, meddai Chelsey: “Mae’n arswydus, yn wirion, yn glyfar ac yn hynod ddifyr. Mae ein nod yn syml: anfon cynulleidfaoedd adref ar ôl iddynt gael noson wych yn y theatr. Mae’n llawn dirgelwch, yn hynod ddoniol, yn llawn dyfeisgarwch, yn gyflym ac yn fythgofiadwy, ac mae’n rhoi boddhad arbennig oherwydd ei fod yn gofyn am gymaint o greadigrwydd gan bawb sy’n rhan ohono. Bydd gwylio’r cast yn trawsnewid yn ddwsinau o gymeriadau, yn datrys heriau llwyfannu a oedd yn ymddangos yn amhosibl, ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o godi chwerthin bob dydd, yn wirioneddol bleserus.”
Gyda newidiadau cyflym, llwyfannu dyfeisgar a sgript sy'n llawn hiwmor bywiog, mae'r addasiad hwn – sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y West End – yn dod â stori eiconig Syr Arthur Conan Doyle yn fyw. Mae'n sioe fywiog a hwyliog sy'n llawn eiliadau o chwerthin uchel – rhywbeth na fyddwch am ei golli... ni fydd y rhosydd byth yr un peth eto.
Gellir gweld The Hound of the Baskervilles ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 7 Hydref i ddydd Sadwrn 17 Hydref, gyda pherfformiad BSL ddydd Mawrth 13 Hydref. Tocynnau o £18. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.